Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. GORPHENAF, 1860. RHIF XXXVIII. § 52.—RHAGENWAU. Rheol gyffredinol i'r holl Ragenwau. Rhaid i bob Rhagenw sydd yn meddu rhif a chenedl, gytuno â'i ragfynedydd (antecedent), neu yr enw am yr hwn y saif, mewn rhif a chenedl. Yr unig eithriad i'r rheol hon yw y Ffurf Annibynol o Ragenwau Meddiannol. Cytuna y rhai hyn â'r Enwau neu y Rhagenwau y perthynant iddynf, yn hytrach nag â'r Enwau y safant am danynt;—" Eìddo yr Arglwydd y ddaear a'i chyflawnder." " Eiddof fi yr arian, ac eiddoffi yr aur, medd yr Arglwydd." " Gyda phawb sydd yi> caru ein Harglwydd Iesu Grist, o'r eiddynt hwy a ninnau." § 53.—RHAGENWAU PERSONOL PRIODOL. 1. Fel Enwau, arferir y rhai hyn yn ddeiliadol ac yn haerebol. (§ 46. 3, 4.) Gan fod y Ferf yn Gymraeg yn meddu terfyniadau personol, ni arferir y Rhagenwau yn ddeiliadol ond pan fyddis am nodi y person mewn modd neillduol. Ond nid yw y Rhagenw haerebol un amser yn cael ei adael allan. 2. Pan fyddo y Rhagenw deiliadol yn dyfod o flaen 7 Fel-f, nid yw ýn myned o dan un cyfnewidiad; ond pan fyddo yn dilyn y Ferf, cymmera y cyfnewidiadau eanlynol le :— 0») Yn y person cyntaf unigol troir y llythyren gyntaf i'w sain meddal, os bydd y Ferf yn terfynu yn d, /» neu r;—« Cafwyd/ gan y rhai nid oeddynt yn fy ögheisio." « Ystruan o ddyn vtyf fi." "Afwyta/jî gJg teirw ?" " Minnau, os dyrchefir fi oddiar y ddaear."