Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ü.'rnitii.w, MEHEFIN, 1865. H 9 NETJ AEWRE8 Y FPYDD. Pen. II.—Llyfr y Dystiolaeth. "Yn awr, Miss Theodosia;" ebe Mr. Percy, pan gyfarfu- asant, " Gadewch i ni ddechreu trwy holi y tystion. Pan gasglwn yr holl dystiolaeth, byddwn alluog i symìo i fyny yr achos, a chewch chwithau ddwyn i mewn y rheithfarn." "O'r goreu," ebe hithau, gyda gwên, y gyntaf a oleuodd ei gwyneb er pan safai wrth y dwfr, " ' At y gyfraith, ac at y dystiolaeth ; oni ddywedant yn ol y gair hwn, hyny sydd am nad oes oleuni ynddynt' Wele (bydded foddlawn gan y llys) dyma y dystiolaeth," gan gyflwyno copi arferédig o'r Testament Newydd. " Wel, pa fodd yr ydym i fyned at y pwnc am yr hwn y gwahaniaethwn ? Credu yr wyf y cytunir i Iesu Grist orchymyn bedyddio ei ddysgyblion yn mhob oes." " Do, Syr, felly yr wyf fi yn deall." "Yna ymddengys fod ein hymofyniad yn un pur syml. Hyn yw ef, pa un a ydwyf fi a chwithau, ac ereill a daenell- wyd fel ninnau yn eu babandod, erioed wedi eu bedyddio ? Mewn geiriau ereill, ai taenelliad babanod yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân, yw y bedydd a ojynir yn y llyfr hwn ?" " Dyna yr ymofyniad,'' atebai hithau: " Yr unig beth sydd arnaf eisieu yw, gwybod a fedyddiwyd fi erioed. Taenellwyd fi yn yr eglwys; trochwyd y foneddiges yna heddyw yn yr afon. Os bedyddiwyd hi, »i fedyddiwyd fi. Dyna y pwnc: nid oes ond un bedydd. Pa un ydyw ? Y taenelüad neu y trochiad ?" u '0! 03 hyn yw y cwbl, penderfynwn y pwnc yn fuan. ™ae taenellu, a thywallt, a throchi, oll yn fedydd. Bedydd yw cymhwysiad o ddwfr fel ordinhad grefyddol; nid oes W nwys am ddull y cymhwysiad. Gellir ei wneyd y naill nordd neu y lla.ll, ond iddo gael ei wneyd gyda'r dyben cywir. }t ydych wedi camgymmeryd natur y gair bedydd; ystyr- 'wch chwi ef yn derm maihol (specific,) yn hytrach na rhywiol (generic)." "Nis gwn, Mr. Percy, a ydwyfyn eich deall. Cododd fy