Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

A TTKJHt A**Xr. AWST, 1865. NBU ARWRES Y FFYDD. PENNOÜ III. AWDURDODAU DÜWINYDDOL. (PARHAD 0 TUDAL. 201.) "Gadrwch i ni yn bresennol, weled pa beth a ddywed Mr. Barnes yn mhellach." Darllenai Mr. Percy yn mlaen:—" Mae y gair Hebraeg (tabal), yr hwn a gyfieithir bedyddio, i'w weled yn y lleoedd canlynol o'r Hen Destament:—Lef. iv. 6; xiv. 6, 51 ; Num. xix. 18; Ruthii. 14; Ecsod. xii. 22; Deut. xxxiii. 24; Ezec. xxiii. 15; Iob ix. 31 ; Lef. ix. 9; 1 Sam. xiv. 27; 2 Bren. v. 14; viii. 15; Gen. xxxvii. 31 ; Ios. iii. 15. Nid yw i'w gael mewn un man arall: a'r fFordd i gael allan ei ystyr yn mysg yr luddewon y w, chwilio yr adnodau yn ofalus a beirniadol." " 0!" ebe y foneddiges ieuanc, " dyna beth yr wyf fi yn ei hoflfi. Yr wyf yn caru cael y meddwl yn yr Ysgrythyrau, gwn y pryd hyn y gailaf fod yn hyderus. Aroswch fynyd, nes i mi gael fy Meibl, ac olrhain y lleoedd yna, a gweled pa fodd y darllenant Ós darllena taenellu, yna bydd pob peth yn iawn, taenelliad yw bedydd; os darllena tywallt, yna tywalltiad yw bedydd; os darllena trochi, yna trochiad yw bedydd. Cawn weled yn fuan." " Gadewch i mi ddarllen ychydig yn mhellach, Miss Theodosia; ac feallai na feddyliwch yn anghenrheidiol chwilio yr adnodau." Yr oedd wedi cael ei Beibl, er hyny, ac yn ymbarotoi i droi atbob adnod mewn trefn, pan ail ddechreuodd efe ddarllen:— " üddiwrth yr adnodau byn, gwelir nad ei ystyr gwreiddiol yw taenellu, na thansuddo; trochi ydyw, yn gylîredin i'r dyben o daenellu, neu ryw ddyben arall." " Beth! gadewch i mi weled hwna. Maddeuwch i mi Mr. ''ohnson, ond beth mae y dyn da yn ei feddwl. Nid taenellu yw; nid tansuddo (immerse) yw; trochi (dip) yw. Edwin,