Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. RhifSÔO. AWST, 1873. Pbis lc. PREGETH PEDR YN NHY CORNELIUS. (PARHAD O TUDAL. 205.) 5. Tystion Iesu o Nazareth. (Adn. 39—41.) Gwaith tyst yw dywedyd " y gmr—yr holl wir, a dim ond y gwir." Bod yn ffyddlawn a chywir i'w gydwybod a'r gwir- ionedd, heb ofni neb ond Duw, ac heb barch i ddim ond gwirionedd. Y tyst goreu yw yr hwn nad oes ganddo ddim i'w golli na dim i'w ennill wrth ddywedyd y gwirionedd, a sefyil at y gwirionedd. Dyna'r fath dystion ydoedd yr apsstolion. Y mae anghen tystion, a thystion o'r fath a enwyd, pan y byddo rhywbeth newydd, mawr, a phwysig yn cymmeryd lle yn y byd, er mwyn cadarnhau y gwirionedd yn nghylch y peth hwnw. Yr oedd cael tystion o'r cymmeriad hwn o'r pwys^mwyaf i Iesu o Nazareth, gan ei fod ef yn sefydlu crefydd newydd yn y byd—y grefydd hòno yn taro yn uniongyrchol yn erbyn yr hen grefydd Iuddewig—i'w diddymu, i gymmeryd ei lie, ac i dra ragori arni hi a phob crefÿdd arall. Yr oedd y byd yn camddeall ei neges fawr—yn camddeall ei beison a'i gymmeriad; am hyny, traddodwyd ef i farwolaeth y groes. I gael y gwirionedd am dano i'r golwg, rhaid ydoedd wrth dygtion—tystion geirwir, ac yr oedd y tystion hyny yu öatod gyda Duw—yb apobtolion.