Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. Rhif 589. / TOìíAWR, 1876. Peis lc. HANES DECHREUAD YR YSGOL SABBATHOL. GAN RUFUS. SR ysgol Sabbathol gyntaf y mae genym un hanes am dani, oedd un gan yr Annibynwyr yn Ty'rdwncyn, ger Abertawy. Dywed Dr. Rees yn ei Ristory of Non- conformity in Wales, tudal. 419, " We find in a manuscript written in 1720, by one Morgan John, of Morriston, near Swansea, that he had learned to read at the Independent Sunday School, at Tyrdwncyn, in the neighbourhood, in 1697, and that the Independent Church at Neath also had a Sunday School at that time. These schools were probably catecheticat" meetings, such as every Nonconforming church in that age held regularly once a iceeh." Yr oedd yr ysgolion uchod mewn bod tua 179 o flynyddau yn ol. Yr ysgol Sabbathol nesaf y gwyddom ddim am dani oedd yr un a sefydlwyd gan un Ludwick Hacher, yn Ephrata, sir Lancaster, Pennsylvania, America. Yr oedd yr ysgol uchod yn perthyn i Fedyddwyr y Seithfed Dydd Germanaidd. Sefydlwyd hi tua'r flwyddyn 1745, rhyw 130 mlynedd yn ol. Cawsom yr hanes hwn yn y Faner rhai blynyddau ynol; ond nid ydym yn cofio y flwyddyn, am yr hyn yr ydym yn teimlo yn ofidus. Beth bynag, gallwn- roi ein gair mai gwirionedd yw i ni ei gael yn Maner Cymru, ac i ni gymmeryd nodiad o hono y pryd hwnw. Parhaodd yr ysgol Sabbathol uchod hyd y flwyddyn 1777—ystod 32 o flynyddau. Yr hyn a fu yn angeu iddi oedd i'r ysgoldy i gael ei droi a'i ddefnyddio yn glafdy yn amser brwydr Brandy wine.