Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. Rhif 599. TACHWEDD, 1876. Pris lc. Y MIS. GAN Y PARCH. H. WILLIAMS, LLANILLTYD FARDREP. 1. Yr ente. Nid yw y Geiriaduron yn cyduno am ystyr yr enw Tachwedd. Yn ol rhai, yr ystyr y w Tach—diflaniad, neu agos i derfynu ; a gicedd—ymddangosiad, gan olygu fod y dydd yn byrhau, a'r flwyddyn ar derfynu. Gynt defnyddid y gair i olygu bychan; megys Tachwedd o ýd, Tachwedd o arian, sef ychydig o'r pethau hyn. Ereill a'i heglurant fel hyn, Tach—tawch, tochi, gan olygu ansawdd wlybyrog y mis. Cymmerer a fyner o'r egluriadau yma, y mae cyfaddasder yr enw ar y tymhor hwn o'r flwyddyn i'w weled yn amlwg. Mabwysiadwyd enw Seis'nig y mis—November, o flwyddyn Romulus, sef y flwyddyn Rufeinig, a golyga y nawfed mis, ac felly yr ydoedd yn y flwyddyn hòno; ond yn ol rhaniad y flwyddyn yn awr, nid priodol yr enw, gan mai yr unfed ar ddeg, ac nid y nawfed mis ydyw. 2. Gwyliau ac ymprydiau. Tachwedd laf, Gwyl yr holl saint. Yr oedd hon yn wyl bwysig gan y paganiaid. Fel yr oedd yr holl au-dduwiau yn cael eu cynnrychioli yn eu mysg hwy yn y Pantheon (oll-dduwfa), felly cymmerwyd at yr un syniad gan y Pabyddion, a mynwyd gwyl i'r holl seint- iau; ac yn hyn y mae Eglwys Loegr wedi eu dilyn. 5ed, Brad y Papistiaid, neu Frad y Powdr gwn. Un o " ddyddiau arbenig " Eglwys Loegr yw hwn. Y mae gwàsanaeth neilt- duol ar ei gyfei yn ei Llyfr Gweddi Cyfiredin, Y bradwí