Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. Riiif 601. EBRILL, 1877. Pris lc. BYR GOFI0N Y PARGH. J. RUFU8 WILLIÂMS. ^JM fod y brawd hoíF ac anwyl hwn yn oWyn cys- sylltiad agos â'r Atiiraw er's amryw flynyddau bellach, mae yn ddiammheu y bydd yn dda gan ein darllenwyr gael braslun o hanes ei fywyd yn ddiaros. Gwaith anhawdd yw ysgrifenu y frawddeg ei fod wedi marw; ond dyma y ífaith, ac nid oes gwell i'w wneuthur nag ymostwng i'r oruchwyliaeth. Ganwyd ef y 5ed o Fai, 183?, yn Merthyr Tydfil. Yr oedd ei rieni yn ddynion gwir grefyddol a duwiol. Yr oedd iddynt amryw blant heblaw eu hanwyl John, ond deallwn eu bod oll wedi ei ragfiaenu ef trwy afon angeu. Bu farw ei fam fwy na phedair blynedd yn ol yn Pentrebach, gerllaw Merthyr. Ar ol ei marw hi, symmudodd ei dad i fyw ato ef i'r Ystrad Rhondda, lle y cafodd gynnaliaeth gysurus gan ei fab hael- frydig; oblegyd yr oedd Iiufus, trwy ddiwydrwydd, cynnildeb, a medrusrwydd, wedi llwyddo i ennill safie weddol gysurus yn y byd, er na dderbyniodd ond cyfìog bach, mewn cymhar- iaeth fel gweinidog, hyd yn ddiweddar. Er hyny mae yn dda genym hysbysu ei fod wedi gadael ei weddw alarus, a'i dad oedranus, yr hwn sydd ar fin 80 mlwydd oed, mewn sefyllfa. uwchlaw anghen. Dechreuodd ofalu am yr hyn a dderbyniai