Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. Rhif 607. GORPHENAF, 1877. Pris lc. YR ARDD FLODAU. GAN Y PARCH. D. OLIVER EDWARDS, STOCRTON-ON-TEES. Ehif liti.— Y gyfraith a'r efengyl,—rhagoriaeth yr olaf. Drwy Moses fel gwas Duw, y trosglwyddwyd y gyfraith, ond trwy Iesu Grist y daeth yr efengyl: ac o gymmaint ag oedd Iesu Grist yn rhagori ar Moses, felly mae'r oruchwyliaeth olaf yn tra ragori ar y fiaenaf. Gelwir un yn lythyren farw : gelwir y llall yn weinidogaeth yr yshryd; gelwir un yn wein- idogaeth damnedigaeth, gelwir y llall yn weinidogaeth bywyd. Dadguddiad rhanol o'r Duw mawr oedd y gyfraith, ond y mae yn yr efengyl y dadguddiad mwyaf cyflawn a gogoneddus. " Duw, cyfiawn yw," ebe'r gyfraith : " Duw, cariad yw," ebe'r efengyl. Edrychwn ar yr amgylchiadau cyssyllticdig û gosodiad y ddwy oruchwyliaeth ifyny. Dacw yr Arglwydd yn disgyn ar ben Seina mewn tân fliamllyd,—y mynydd i gyd yn mygu, a*r fllamiau yn dyrchafu i entrych nen,—cwmmwl tew, mŵg, a thân. Clyw y taranau croch yn rhuo, a gwel y mellt gwibiog yn ymblethu drwy eu gilydd ; clyw yr udgorn yn Ueisio uwch, uwch, uwch, a dyfnach, dyfnach, dyfnach, a Duw ei hunan yn y pwlpud tanllyd yn llefaru y deg gorchymyn nes oedd yr holl wer8yll yn delwi. Gẁel,y dorf.fawr yn crynu fel y mynydd ei hun, ac yn mhangfeydd ing a braw rhwng dannedd llymion