Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. Rhif609. MEDI, 1877. Pris lc. ADGOFION PELLACH AM Y PARCH. J. RUFU8 WILÜAM8. 5Yft?,N yr Athraw am fis Ebrill diweddaf, ymddangosodd SkJj rhai byr gofion am y brawd hoff ymadawedig uchod, a *Ä-/I Ued addawyd wneuthur sylwadau pellach mewn perth- ynas iddo. Yr ydym yn awr yn cymmeryd mewn Uaw i gyflawni yr addewid hòno. Cawn edrych ychydig arno fel dyn, Cristion, pregethwr, a gweinidog; gan wneuthur rhai nodiadau diweddol ar ffrwyth ei lafur gweinidogaethol ac awdurol. O ran y dyn oddi allan, yr oedd yn lluniaidd a chyfartal; yn rhywle yn y canol o ran taldra; yn llydan a llawn yn awr er's blynyddau; yn rhuddgoch ei wallt a blew ei gernau; ei wyneb yn Uawn a glân, ac yn arddangos gwybodaeth; a'i lygaid yn serchus a bywiog, ac yn arddangos sylwgarweh yn eu trem. Yr oedd y dyn oddi mewn yn cyfateb i'w ddyn oddi allan; yr oedd ei feddwl yn llawn a goleu, ei farn yn addfed a chywir, ei sylw o bethau a phersonau yn dreiddgar, a meddai lawer o fedrusrwydd i ddywedyd ei farn yn eglur a diamwys. Meddai deimladau cynhes a bywiog, a chalon yn Uawn o serch. Yr oedd ei ffyddlondeb fel y graig o ran cad- ernid, fel y gallesid pwyso arno heb bryderu dim. Yr oedd o