Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. Rhif610. HYDREF, 1877. Peis lc. PRYDFERTHWCH ANIAN. I.—AMRYWIAETH ANTAN. ^-J\«lf| AE y gair anian weithiau, yn golygu greddf neu duedd. <S> Arwydda y priodoleddau neu y tueddiadau a berthyn i'r naill greadur neu rywogaeth o greaduriaid, gan eu gwahaniaethu oddiwrth bob rhywogaeth arall. Pan y dywedir fod anian y pysgodyn yn y dwfr, neu yr aderyn yn yr awyr, meddylir fod y naill a'r llall wedi eu cyfaddasu o ran eu natur i fyw a bod yn eu helfen naturiol ac nid yn un nian arall. Ond yr ystyr yn ol y testyn, ydyw y byd, y greadigaeth, neu y gyfundrefn yn ol pa un mae pob peth wedi eu creu ac yn gweithredu. llhyfeddodau a phrydl'erthwch anian, sydd yn dueddol i daro y meddwl dynol â syndod wrth ganfod cymmaint o'r Creawdwr mawr yn eu ífuríìad, a'u rhyfeddodau perthynol iddi. Yn bresennol, ni a sylwnfod anian yn brydferth yn amtyiciaeth ei gwrthddrychau. Mae'r greadigaeth fel math o balas gorwych Wedi cael ei adeiladu gan law gelfydd y Creawdwr mawr ei hun, ar ba un y mae arwyddion amlwg wedi eu rhoddi o ddoethineb anfeidrol a gallu diderfyn. Y mae anian yn llawn o amrywiaeth, a phob gwrthddrych yn wahanol i'w gilydd. Edrychwn i'r fan a fynom, yn ol neu yn mlaen, i fyny neu i lawr, y mae pob man yn llawn o amrywiaeth ; nid oes gwa- haniaeth i ba un o ystafelloedd y palas creadigol y trown ein golwg, y mae yn llawn prydferthwch anianyddol. Pe yr