Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yft ATHRAW. MAI, 1858. RHIF. XIV. § 14.—TEITHI RHAGENWAU. Rhagenw, fel y mae y gair yn arwyddo, yw gair a saif yn lle enw ; neu fel y dywed rhai, " yw arwydd neu gynnrychiolydd enw." Pan yr arferir efe neu hi i ddynodi person neu wrthddrych ; megys, dyn, gwraig, pren, careg, cynnrychiola efe yr enwau dyn, pren; a hi yr enwau gwraig, eareg. Gellir arfer y rhagenwau a nodwyd, yn gystal ag amryw ereill, wrthynt eu hunain, yn lle enwau ; ond gelwir rhai geiriau yn rhagenwau y rhai nis gallant sefyll wrthynt eu hunain, y rhai am hyny a ddygant ddelw ansoddeiriau; megys, rhyw, ambell, pa, &c, canys rhaid arfer enwau neu eiriau ereill gyda y rhai hyn, ar ba rai y maent yn ymddibynu; rhyw un, rhyw ddyn, ambell un, pa rai, pa ffordd. I'r dosbarth hwn y perthyna y rhagenwau meddiannol, fy, dy, ei, &c, oblegyd er y cynnrychiola y rhai hyn ber- sonau, arferir hwy bob amser mewn cyssylltiad â rhyw enwau ereill, megys, fy nhad, dy fam, ei dy, &c Gallem alw y dosbarth cyntaf, hyny yw, y rhagenwau a safant wrthynt eu hunain, yn Rhagenwau Annibynol, a'r dosbarthiadau ereill yn Rhagenwau Dibynoh Geilw rhai hwy yn enwol neu sylweddol, ac ansoddol (substan- tive and adjectẃe). I'r dosbarth cyntaf y perthyji