Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. «HYDREF, 1858. RHIF. XVIII. § 27.—AGWEDDAU BERF. Wrth Agweddau y Ferf y golygwn, yr un peth ag a elwir mewn Grammadegau Saesoneg ac ereill yn lleisiau (toices). Geilw Edeyrn Dafod Aur yr un peth yn "genedl perwyddiad." Ond gan nad yw yr enwau hyn yn cyfleu un synwyr i'r Cymro, yr ydym yn arfer agweddau yn eu lle. 1. Y mae i Ferf wrthddrychol ddau agwedd, sef y gweithredol a'r goddefol. (a,) Y mae y Ferf yn ei hagwedd weithredol pan mae ei deiliad yn gweithredu, ac nid yn cael gweithredu amo:—Dafydd a laddodd gawr. Yma mae y Ferí' Uaddodd yn ei hagwedd iceithredol. Y mae Dafydd ei deiliad yn gweithredu, nid yn cael gweithredu arno. (b,) Mae y Ferf yn ei hagwedd oddefol pan fyddo ei deiliad yn g&ddef gweithred y Ferf,. hyny yw, heb fod ei hunan yn gweithredu, ond yn cael gwcithredu arno:— Cawr a laddwyd gan Ddafydd. Yma mae y Ferf yn ei hagwedd oddefol—goddefydd ac nid gweithredydd yw ei deiliad, sef y cawr. Oddiwrth yr engraiíft hon gwelir y gellir troi y Ferf o'r naill agwedd i'r llall, hyny yw, gwneuthur y gweithredydd neu y goddefydd yn ddeiliad y frawddeg, heb gyfnewid nemawr ar y synwyr; canys yr un hysbysiad a gynnwysa y frawddeg;— Dafydd a laddodd gawr, a'r frawddeg;.— Cawr a ladd-