Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. Rhif 539. TACHWEDD, 1871. Pris lc. Y MERTHYR IEUANC RHUFEINIG. PENNOD III. Ei ymweliad â'r Cristionogion condemniedig. P««^ETH allan i'r heol; yr oedd yn oleuni lleuad clir, yn ei S^ÌY» wisg wen rhwymedig â gwregys, a'i ben yn ddiorchudd; Ç*tt«J aeth, heb i neb ei weled, at Sebastian y rhaglaw, yr hwn a adwaenai yn dda. " Pancratius," ebe'r rhaglaw, "beth sydd yn awr?" " Yr wyf yn ymofyn archeb (order) i fyn'd i lawr i'r mwn- gloddiau lle mae'r Cristionogion yn gweithio." " Chwi!" meddai Sebastian, "bethyw eich meddwl? oni wyddoch mai marwolaeth yw myned yno; cewch eich rhifo yn mhlith y Uaddedigion." " O! Sebastian," meddai'r bachgen, gan syrthio ar ei liniau, "gadewch i mi fyn'd; maent yn sychedig, yn amddifad, ac yn flinedig. Oni ddywedodd Efe, 'Bu arnaf syched, a rhoisoch i mi ddiod.' A phaham nas gallaf fì fyn'd, ac ennill yr addewid werthfawr yna." Edrychodd y rhaglaw arno gyda theimladau cymmysgedig o syndod ac edmyged, a rhoddodd yr order iddo. Gwasgodd Pancratius ei law at ei wefusau diolchgar, ac yna ffwrdd. Yr oedd y pyllau y cyfeiriai atynt, dipyn tu allan i'r ddinas. Cyrhaeddodd y porth, yr oedd trwydded y rhaglaw yn ddi- gonol, aeth yn mlaen heb anhawsder i enau lie tywyll»