Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SEREN GOMER. WHITEH ALL, FEL YR OEDD.YN 1746. CAN Y PÄRCH. D.;;MORCAN, BL.AENAFON. ♦ * * * " Sir, you Must no more call it York Place—that is past; For since the Cardinal fell, that title's lost: 'Tis now the King's, and called Whitehall."—Shaeespeahs. Meddylied y darllenydd ei fod yn bresenol yn Charing Cross, Llundain, lle y codwyd croes gaa Iorwerth I., er coffadwriaeth am ei wraig dráncedig, sef y frenines Chère Reyne, oddiwrthyr hyn y cafodd y lle ei enw presenol. Yn y gymydogaeth, yn gyfagos, y mae Whitehall yn sefyll. Cruglwyth o adeiladau, eynteddau, a gerddi, yaestyn o St. James's Park hýd yr afon, metjÉt~lled, ac ar hyd ochr yr Afon Thames a Scotìand Yard, yn agos at Bont Westminster, mewn hŷd, oedd y Pryd hwn yn ffurfio amgyíchoedd y palas breninol. Yfna y dangosodd Cardinal Wol- sey ei rwysgfawredd a'i gyfoeth, yr hyn a'i gwnai yn boblogaidd dros ben gyda'r rhai a ymborthent ar ei afradlonrwydd ef; ac ya y man yma, y meddylid, yr adeiladodd efe y palas a elwid y pryd hwnw yn York Place, o herwydd ei íbd yn drigfan Archesgob York; ond wedibyny, Whitehall, o herwydd 49 gwỳnder ei geryg mewn cyferbj'iiiad i eiddo yr adeiladau cylchynol. Collodd ei enw cyntaf pan aeth meddianau y Cardinal yn eiddo i'r Brenin, dan y ddeddf Prcemunire. Yma y priododd Harri VIII. Anne Boleyne, ac yma y bu efe farw, trwy lynoryn (ulcer) gwrthnysig ar ei forddwydáií Ee byddai y ceryg yn meddu llafar, gallent adrodd Uiaws o bethau a gymerasant le ag y buont hwy yn dystion o honynt, yn amser ìlarri VIII., Iorwerth VI., Mary Waedlyd, Elfeabeth (yr hon a gadwai ei llys yn Greenwwìh a White- hall bob yn ail—enwog am ddrwg a da), Iago I., a Siarls I., amseroedd, yn y rhai yr ymladdodd rhyddid amryw o'i brwydrau mwyaf ysplenydd â rhai o'i gelynion gwaeŵ- afî diweddaf yn y wlad hon, ac yr enillodd fuddugoliaethau byth-gofiadwy, trwy garch- ar, a gwaed, a thân. Yn gyfagos y mae y Siar Chamber, a'r Gatehottse, yn nghyswllt ..'