Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SEREN GOMER. Rhif. 488.] MAI, 1856. [Cyf. XXXIX. DEWINIAETH. CAN Y PARCH. O. OWEN, OAERFFILI- [PABHAD o'K BHIFYTI PIWFDDAF.] Sylwwn yn bresenol ar ddewiniaeth yn fwy manwl yn ei gwahanol gangenau, fel y maent yn cael eu nodi allan yn y gwahardd- iad i'w herbyn yn nghyfraith Moses. Deut. iviii., 10, 11. Y mae yma wyth o gangenau yn cael eu nodi. 1. Dewino (dẁining). 2. Planedydd (obseroer of times). 3. Daro- ganwr (using enchantments). 4. Hudoles (mtch). 5. Swynwr swynion (charming, or setting spells). 6. Un a geisio wybodaeth gan gonsuriwr (dealing with familiar spi- rìts). 7. Brudiwr (wizard). 8. Un a ym- ofyno â'r meirw (nicromancer). I. Dewino (rosem Aesamim).—Ymdden- gys fod y cyfenwad hwn yn generic am yr holl gyfundraetb, a golyga un yn ceisio allan ddyfodoldeb drwy foddion annghyfreìthlawn a goruwch-naturiol. Gwir y defnyddient weithiau foddion lled ddiniwed, megys, yn 1. Drwy fwrw coelbren. 2. Drwy gwpanau : yraddengys fod yr arferiad yma yn ffynu yn yr Aifi't mor fore a dyddiau Joseph. Gen. xliv., 5. Yr oedd traddodiad yn mysg yr henafiaid, fod cwpan wodi pasio yn olynol drwyddjodaw amryw benaduriaid, i'r hwn y pertbynai y briodoledd ryfeddol o ddesgrifio yr holl fyd, a'r oü a gymmerai le ynddo ar y pryd. Y Persiaid hyd heddyw a'i galwant yn " gwpan Jemsheed," un o'u hen frenin- oedd. Y cwpan hwn^yn llawn o elianr an- farwoldeb, a gafwyd yn y ddaear wrth gloddío frlfaeni Persepolis. 3. Dewinent â saethau. zeciel-3Qri., 21. Ysgrifenent ar saethau enwau y dinasoedd, yn erbyn pa rai y bwr- iadent fyned i rjfel; 'jma cymmysgent hwynt, gan eu gosod blith draphlith mewn cawell; ac enw y ddínas fyddai ar y saeth gyntaf a dỳnid allan, ar hòno yr ymosodent gyntaf. 4. Dewinent drwy adolygu afu (liver) ani- feiliaid wedi eu lladd. 5. Arferent yr hyn a elwid Hadomanct/, neu ddewino â ffon. Hos. ìt., 12. Y person a ymgynghorai a fesurai y ffon â'i law, neu â'i fys, gan ddweyd, " Mi aftf, neunid âf; neu mi a wnaf y cyfryw betb, neu ni wnaf; " ac fel y dygwyddai ar y mesuriad olaf y penderfynai. Dewinent hefyd,felyr ydym wedi iylẅi yn barod, drwý rynnorthwy ysbrydion a daimoniaid. 25 II. Planedydd.—Un yn rhagfynegu cyf- newidiadau mawrion, yn naturiol a gwladwr- iaethol, oddiwrth agwedd y planedau, di- ffygion, ysgogiadau y cymylau, &c. Dysg- ent fod rhyw ddyddiau ac amserau, â llwydd neu aflwydd neillduol yn perthyn iddynt. Carient sêr-ddewiniaeth i'r eithafion ; 'ie, hyd byrth uffern. Yn ol y system hon, mae dy- Tanwad y planedau yn flàfriol neu anffafriol, yn gydunol â sefyllfa, gwrth-darawiad neu gyssylltíad, a chyd-darawiad y gwabanol bíanedau hyn mewn gwahanol dai. Mae sêr-ddewiniaeth, fel cyfundrefn, yn gwbl groes i reswm ; ac y mae yn syndod fod dyn- îon call a dysgedig erioed wedi rhoddi cred i'r fath ffiloreg. Gwehr twyll y gyfundrefn os ystyriwn, ya 1. El bod yn seiliedig ar sgitem fechan, dy- wyll, achyfeiliornus o seryddiaeth; a chan fod y sylfaen ar y tywod, y mae yn rhaid, o angenrheidrwydd, fod yr oruwch-adail yn an- niogel a pheryglus. 2. Y mae sêr-ddewin- iaeth yn aeiliedig ar eilun-addoliaeth, ac nid ar grediniaeth o'r unig wir a'r bywiol Dduw. 3. Y mae sêr-ddewiniaeth yn yspeilîad un- iongyrchol ar ragluniaeth ddwyfol o'igogo'n- iant. Bûm yn darllen gwaith Sibli. Y mae mor rhyfygus a myned i ddarllen ffortyn yr Arglwydd tesu Grist, ac yn priodoli gwýrth- iau ei fywyd, a rhinwedd ei angeu poenus ar y groes, i ddylanwad y planedau, ac nid i'w gariad at fyd dan ddedfryd condemniaä. jj III. Daroganwr.—-Dywed Dr. A. Clarke, mai ỳetyr y gair yn yr iaith wreiddiol yw, " edrych yn asttíd: to view etíentitely." Edrych yn fanwl ar goluddion anifeiliaid, ehediad adar, udiad cŵn, ysgogiad y cy-„ mylau, a meteors tanllyd, a dewino oddiwrth hyny. Dewino gyda seirff hefyd, oedd yn dra chyffredin yn mysg yr henafiaid. , IV. Hudoles.—Golyga y term hwn y rhyw fenywaidd. Y mae yr enwad hwn yn ddigon adnabyddus i'r Cymmry. Os byddai rhyw hen wreigan ychydig flynyddau yn ol yn fwy anwybodus a phaganllyd, yn hyllach, a thlotach nâ'r cyffredin, credid yn union ei bod yn medru rheìbio, neu witchio : credid ci bod yn alluog i wneyd pethau rhyfeddol,