Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SEEEN GOMEE. Rhif. 503.] AWST, 1857. [Cn. XL. dienyddiad/ "Listen, Oh Britain ! are thy actíons right? Do they not rather lessen thy renown; Do deeds, too barbarou» even tbr the right, Reflect a ray of glory on thy crown ? Peace to thy crown—but take not life away; The image of Goá stamps that unhappy soul, Which thou art hurling, ere its destin'd day, To hia unchangeabìe and eternal goal." Pa un a ydyw yn iawn rhoddi drwgweithredwr i farwolaeth, nen nad ydyw, sydd gwestiwn o fawr bwys; a dylai pob Cristion, yn enwedig y rhai sydd yn dysgu Cristionogaeth i'r bobl, fod yn meddu barn gywir a phenderfynol ar y Íiwnc. Mae yn hen bryd i ni, y Cymmry, i ystyried y mater ger bron; gan ei òd yn bwnc yr oes, ac yn cael llawer o syrw yn mhìith ein cymmydogion, y Seison. A hyfryd ydyw genym feddwl, fod Eisteddfod Aberdär wedi anrhyd- eddu ei hun gymmaint, drwy ddwyn y pwnc o ddienyddiad i sylw Uenorion a thrigolion Gioyllt Walia yn gyffredinol. Gan nad pwy fydd yn fuddugol, yr ydym yn bwnadu gwneyd ein goreu, drwy ymdrin â'r mater yn bwyllog, man- wl, goleu, ac effeithiol. 6 EHANI. Dienyddiad. Dienyddiad, neu ddieneidiad, yw'r gospedigaeth erchyllaf sydd alluadwy i un dyn ddwyn ar ddyn arall. Nis gall, hyd y nod y gormeswr creulonaf, wneyd mwy nâ " Uadd y corph." Hyd yma, a dim yn mhellach, y gall ei lid fyned. Dienyddio, nid yw fwy na llai, na rhoddi dyn i farwolaeth ar ol ei gondemnio yn llys cyfraith y wlad. Mewn amryw ffyrdd y byddid yn dienyddio, megys trywanu â chleddyf, Uabyddio à meini, llosgi â than, crogi wrth bren, a thori ymaith y pen; oddiwrth yr olaf, digon tebyg, y cymmerwyd yr enw Capital Punishment, am mai caput gen capitis, y gelwir y pen, yn yr iaith Lladin. Y mae rhoddi i farwolaetn am droseddau neülduol, wedi, ac yn ffynu, yn mhlith pob cenedl, er ys oesau hyd y pryd hwn; ac y mae hyn yn dangos creulondeb a üygredigaeth cyffredin y teulu dynol. Gallem nodi Iuddewon, Persiaid, Arabiaid, Nubiaid, ac Abyssiniaid, fel enghreifftiau; a gallem gyfeirio at weithiau Volney, Porter, líiebuhr, Burckhardt, ac ereill am brofion o r hyn ag ydym wedi ddyweyd. Ond gan fod hyn yn dra anmherthynasol i'r mater gydd i fod dan «ylw, ni a brysurwn ar unwaitìi at y prif bwnc, sef— RHAfflI. A ÿdÿwr Ysgrythyrauyn eyfreithloni dienyddiad, neu nadydynt f I'r dyben i gael atebiad boddhaol i'r gofyniad hwn, rhaid myned yn union- gyrchol i'r hen Destament, ac wedi gorphen yno, rhaid dyfod yn mlaen i'r Testament Newydd, ac yna bydd yr hyn a ofymr genym wem ei gwblhau • Anfonwydy Traethawdhw.nganẅwJfynyáẁ» ŵ»MMy>_(8efyParch.ThomaBLewÌ8,Llanelli.)i Bùteddfod Aberdar; ao er iddo fethu a bod yn fuddugol, etto oafodd ganmohaeth uchel gan y BeirniaM, fel y gwehr yn y SlRFK am y mig èhweddaf. Gwel p. 333. Deallwn fod amryw draetSiodau rhagorol wem methu enmll y wobr heblawhwn; ond gobeithiwn na fydd iddynt gael eu cuddio o herwydd hyny. Bydded i»w Hawdwyr ganiatau iddynt gael ymddangos yn rhywle, ao yna byddant o le«, a chaiff pawb gyHfi ì farnu ârottynt eu hunain. 44