Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SEREN GOMER. T BEIBL. EI GYMMEBIAD . Y mae y gyfundraeth heulog yn cynnwys, o leiaf ddeg ar ugain o wa- hanol fydoedd, a'r rhai hyny yn*amrywio yn fawr yn eu maintioli a'u hymddangosiad; ond etto, mdoes yn euplith i gyd ond un haul, a hwnw yn ddigon mawr i'w cadw oll i droi o'i gylch ef ei hunan, pob un yn ei rawd ac yn ei amser priodol. Diau íbd rhyw luaws afrifed o fodau rhesymol yn bodoli, a'r rhai hyny yn amrywio yn fawr mewn gwybodaeth ac amgyffrediad ; nid oes, er hyny, yn eu plith i gyd ond un Duw, yn anchwiliadwy yn ei synwyr, ac yn anfeidrol yn ei ddeall. " Nid oes dybén ar wneuthur llyfrau lawer." Fel afonydd yn yinar- Hwys i'r môr, ac fel goleuni yn dylifo o'r haul, felly y mae yr argraffwasg yn gyru all&n ei miloedd cyfrolau, bychain a mawrion, gan ychwanegu beunydd at y drysorfa feddyliol gyffredin, dwyn i'r golwg ddirgelion anian, dadlenu rhyfeddodau celfyddyd, a chwilio a phrofi ffeithiau ath- roniaeth. Ond er holl luosogrwydd ac amrywiaeth y cyfrolau llyfrau sydd yn awr yn nwylaw, neu ynte a ddaw i ddwylaw meibion dynion— er cryfed yw y meddyliau sydd wedi bod ar waith yn eu cyfansoddi—er pwysiced y testunau ar ba rai y maent wedi eu hysgrifenu—er yr holl bethau newyddion a rhyfedd y maent wedi eu gwneyd yn amlwg—ac er maint y daioni y inaent wedi ei wneuthur i ddynion ; etto, y mae genym un gyfrol fechan, yr hon, yn ngogoniant ei chyfansoddiad, pwysigrwydd y pynciau yr ymdrinia â hwynt. y dadleniadau newyddion a gynnwysa, a'i dylanwad daionus yn y byd, sydd yn nghanol llyirau y ddaear, yn dysgleirio fel yr haul yn nghanol y solar system, ac yn ymdddangos fel Duw yn nghanol y creaduriaid rhesymol. Mewn ffordd o uwchafiaeth, a thra ragoriaeth, gelwir y gyfrol yma, "T Beibl"—neu Y Llyfe, fel pena fyddai un gyfrol arall yn werth sôn am dani ond ei hunan. Ni fu y gyfroi yma erioed yn cael ei myfyrio gyda y fath ddwysder, ei deall i'r íath helaethrwydd, a'i chredu mor gy- ffredinol ag yn yr oes bresenol. Ond, er hyny, y mae miloedd o ddyn- ìon i'w cael yn awr, sydd naill ai yn hollol wadu honiadau y Beibl, neu ynte yn dibrisio ac yn diystyru ei hawliau. Pe allai fod y dibrisdod yma 0 r Beibl yn tarddu yn benaf o un o dair ffynnonell: 1- Meiihèra yr amser y mae y Beibl wedi bodyn nwylaw dynion. Y mae yn beryglus i fawrygwr gwresog fod o hyd yn agos at ddarlun penigamp, neu ddysgu pryddest faith a hoff ar dafod íeferydd; pan fyddo y syniad 0 ne>wydd-deb, a'r teimlad o syndod wedi mynedunwaith heibio, byddant ya Hed debyg o gael eu canlyn gan ddifaterwch ac anystyriaeth. Y mae yn wirionedd fbd y Beibl o hyd yn parhau yn ei flas ac yn ei newydd- Crir. II.—12.