Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SEEEN GOMER. Rhif. 521.] CHWEFROR, 1859. [Ctf. XLII. NODION BYWGMFFIADOL AM Y DIWEDDAE BAECH. JOHN EDWABDS, (Parhad o Tiid. 8.) Yr ydym eisoes wedi dwyn gwrthddrych ein nodion ger bron y darllenydd. Yr ydym wedi crybwyll am amgylchiad dyddorawl ei sefydliad yn y weinidogaeth. Rhoddasom awgrym o'n cynllun gyda golwg ar yr hyn a ysgrifenir genym. Felly, yr hyn ddaw dan ein sylw yn bresenol yw TYHHOR JOHN EDWAEDS TN T GOGLEDD. Cynnwys y tymhor hwn 16 o flynyddau, sef o'i urddiad yn Nglynceiriog (1813) hyd ei symudiad i Nantyglo (1829). Hysbyswyd yn flaenoBîli'rymadawedigdreulio ychydig flynyddau wedi hyn " yn y Gogledd," h. y., yn Llandegfan, yn Mon. Eithr gan fod yr amser hwnw cyn lleied, gan na wyddom am ddim o bwys neillduol yn y blynyddau hyny, a chan fod hyn yn nhymhor machludiad ei nerth, nis gwnawn gyfeiriad ato mwy. Ein hamcan yw, nid manylwch, fyddai yn edrych ar holl ddydd- iau ac ysgogiadau y dyn, ond cyflwyniad hyny o ffeithiau fyddai, ar y cyfan, yn rhoddi darlun gweddol gywir o'r dyn. Yn ystod yr 16 mlynedd a nodwyd, cododd J. E. i uchder penaf ei ogoniant. Cychwynodd ei yrfa gan " ymlawenhau fel cawr." Yr oedd ei lwybr " fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwy fwy hyd ganol dydd." Cyrhaeddodd enwogrwydd, braidd diail, yn y Dywysogaeth. Yr oedd ei weithgarwch mor ddiflin, ei ddefnyddioldeb inor gyffredinol, ei fywiogrwydd mor hynod, a'i gyfeülgarwch mor serchog, gwresog, a phur, fel y cafodd dderbyniad croesawgar gan bawb a'i hadwaenent; ac nid hir y hu cyn dyfod yn adnabyddus mewn enw ac yn bersonol drwy eglwysi Éjj Gogledd a'r De. Yn y tymhor hwn yn neillduol y bu, yn ol iaith Llythyr Cymmanfa Morganwg, " yn un o feibion y daran trwy gymmanfaoedd Cymmru." Y tro cyntaf y cyfarfydd- wn â'i enw yn " Hanes Cymmanfa y Bedyddwyr Neillduol," cyhoeddedig gan y di- weddar a'r enwog y Parch. W. Jonígu Caerdydd, yw, yn y fl. 1816, tuag amser ei sjnnudiad i Euthin. Cynnaliwyd y "^mmanfa Dde-ddwyreiniol" yn y Casbach, y "Gymmanfa Orllewinol" yn Abergwaun, a "^tóanmanfa y Gogledd" yn Llangefni. Pregethodd J. E. yn mhob un o'r tair. S<ÜÉwpff wrthym gan rai yn y Casbach, yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, am y bregeth a draddodwyd mor ddylanwadol ac effeithiol, felyr erys yn fywiog yn y cof dros ddwyflynedd a deugain o amser. Yn anaml y ceir cymmanfa flynyddol, yn y Godbdd na'r De, o hyn hyd symudiad J. E. i'r Deheudir, nad oedd efe yn pregethu ynddi. Yn y blynyddau hyn hefyd y cawn yr ymadawedig yn fwyaf defnyddiol yn ng^va- hanol ddosranau gweithgarwch crefyddol. Y pryd hyn y dysgwylid fwyaf wrtho, a'r pryd hyn y caed mwyaf ynddo. Yr oedd iddo waith lawer i'w gyflawni, a gwaith lawer a gyfiawnwyd ganddo.