Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR iSttrgraton SUtélegatîiîí, AM EBRILIi, 1833. BUCHEDDAU ♦ ♦ » BYWGRAFFIAD J. WILKES, Y LLEIDR EDIFEIRIOL GAN V PARCIl. J. FLETCHER, O MADELEY. At Olygydd yr Eurgrawn. Barch. Syr,—Fel nad oes gan neb hawl i yspeilio y Ileidr odifeiriol hwn o'r anrhydedd ag a roddes Duw iddo o fano yn well nag y bywiolodd; feily hefyd nid gweddus yw yspeilio gras o'r clodforedd perthynol iddo oddiwrth ddynion yn achubiaeth y penaf o bechaduriaid. Os cyhoeddwch y ffeithiau canlynol, diau y byddant o ddywenydd i'ch darllenyddion lluosog. Idrisyn. Joiin Wilkes, gwrthddrych yr hanes ganlynol, a anwyd yn Darlaston, oddeutu tair milldir o Wolverhampton, swydd Stafford. Bu farw ei dad pan nad oedd John ond plentyn; a'i fam a'i rhwymodd ef yn egwyddorwas gyda glöwr, yr hwn oedd-yn hoff iawn o ymladd ceiliogod. Yn yr ysgol hon, trwy esiamplau drwg, efe a ddysgwyd yn y gelfyddyd ddinystriol o gyngwystlo, twyllo, meddwi, terfysgu, ac ymladd â chymaint o ffyrnigrwydd a'r creaduriaid afresymol a gynhyrfid ganddo i rwygo eu gilydd: ond ei feistr, cyn pen hir, a alwyd yn ddisymwth i roddi cyfrif o'i ymddygiadau, trwy i swmp o'r glo syrthio arno, a'i ladd yn y fan ! Yn fuan wedi, ymunodd y bachgen hwn á thorf o feehgyn gwylltion, y rhai oeddynt mor fuan eu íraed ag yntau i dywàlít gwaed y creaduriaid diniwaid hyn, a'r rhai hefyd a brysurasant ei ddinystr ef. Yr oedd John yn dra Uwyddiannus yn ei gyngwystl- on; a llawer a sylwasant fod pob ceiliog a bleidiai ef, er's hir amser, yn sicr o ddyfod allan yn fuddugoliaethus. Yr ysgrythyr a ddywed, " Llwyddiant yr ynfyd a'i lladd;" ac ynddo ef gwir- iwyd y ddiareb hon. Trwy y cyfryw gyngwystlon, efe a ennillai arian; a pha fwyaf a gai, lleiaf o duedd oedd ynddo i weithio, a mwyaf ydoedd ei awydd am ddilyn ei ddifyrwch ennillfawr, a hawddach y gallai ateb i gostau ei gyfeddachau nosweithiol. O'r diwedd, gan ,fod ei feistres yn analluog i'w lywodraethu, hi a'i gollyngodd o'i gwasanaeth; ac yntau, dan orfod i ddarparu drosto