Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR fgttrgratott W^Uguùflf, AM MAI, 1633. <^ BUCHEDDAÜ. ■■» ♦ » BYWGRAFFIAD J. WILRES, Y LLEIDR EDIFEIRIOL GAN Y PARCH. J. FLETCHER, O MADELEY. (Parhad tudàlen 100.) Yn mhen naw diwrnod, hwy a ddychwelasant, gan ddwyn i mi, yn benaf mewn ysgrifen, hanes obeithiol am ei edifeirwch, fel y canlyn:— "Prydnawn ddydd Sadwrn, ar ol cyraedd i'r carchar, anfonas- om y llythyr i'r ceidwad, a buorn beth amser cyn gallu ei weled ef. Pau y daeth, yr oedd ei wynebpryd mor sarug, a'i eiriau mor Uym, nes yr oedd arnom ei ofu. Efe a ddywedodd, ' Beth sydd arnoch chwi ei eisiau gyda John Wilkes?—i bregethu pregeth iddo, a chanu Salmau, aiê?' A chan droi at Sarah Wilkes, dy- wedodd, ' Yr wyf yn meddwl eich bod chwi yn pregethu.' Ateb- odd hithau, 'Syr, nid wyf fi yn pregethu ; ond byddai yn dda genyf gael ymddyddan àg ef yn nghylch ei enaid dylawd,' ' Mi a wn yn bur dda beth ydych chwi,' ebai ef, 'tẁr o ragrithiaid goganllyd.' Hithau a atebodd, * Syr, y mae ef wedi bod yn fachgen pur ddrwg, ac y mae yn hynod dywyll.' Yr ydoedd hi wedi ymddyrysu cymaint, fel yr annghofiodd ddywedyd ei fod ef wëdi anfou am dani. * Atolwg,' ebai ef, ' beth a ellwch chwi ei wneyd iddo ef, gyda'ch pregethu a'ch íTregod ?' Yna, gan droi at Elizabeth Childs, dywedodd, ' Pwy ydych chwi ? a pha beth sydd arnoch chwì ei eisiau ?'—gan ei gwthio ymaith : ac ychwan- egodd, ' Ewch yn nghylch eich gorchwyl: caiff ei chwaer ei weled, ond chwi ni chewch.' Felly efe a anfonodd am John o'r ddyfn-gell i'r parlawr, ac a safodd gerllaw tra yr ymddyddanai Sarah âg ef: ond yr oedd arni gymaint o ofn gyru y ceidwad i'w nwydau, fel mai o'r braidd y medrai lefaru. Vrn fuan blinodd y ceidwad; a chan orchymyn John i'w ddyfn-gell, efe a'n hanfon- odd ninau yn nghylch ein gorchwyl. e<Yr oeddym yn dra digalon o herwydd ymddygiad } ceidwad ; a phenderfynasom osod y mater o flaen Duw mewn gweddi, gan erfyn ar iddo ef, os oedd am ein gwneyd ni yn ddefnyddiol mewn