Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR Surgratom aMeéleptîfîr, AM TACHWEDD, 1833. BUCHEDDAU. BYWGRAFFIAD WILLIAM DAFYDD, 0 SULLY. Gwrthüdrych yr hanes ganlynol oedd y brawd William Dafydd, o Sully, swydd Forganwg, gof wrth ei gelfyddyd, yr hwn a anwyd yn Llandochan, gerllaw Penarth. Efe a dreuliodd y rhan foreol o'i oes, sef yr ugain mlynedd cyntaf o'i fywyd, niewn pechod ac anwiredd : yr oedd yn ragflaenor ar bob pechod yn inhob man He y byddai: ond, trwy drugaredd, er treulio ugain mlynedd mewn pechod ac oferedd, ac er cyflymed yr oedd yn myned tua dystryw, rhagflaenwyd ef ar y ffordd hòno; ac megys yn amgylchiad Saul wrth fyned tua Damascus, safodd Gwaredwr mawr y byd o'i flaen, ac ymddysglein: d<! goleuni iddo ar y ffordd, a dywedodd, "Caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau.v" Pan ydoedd ef oddeutu un ar hymíheg oed/symüdodd ei rieni i Cadoxton, lle yr oedd y Wesleyaiu yr* dechreu rhoi gwadnau e^ traed i lawr, heb fawr dderbyniad, na neb braidd yn agor drws iddynt. Ond ei rieni ef, pan'ddaethant i Cadoxton, a agorasant eu drws iddynt, Ue y buont am beth amser yn pregethu, Uey clywodd William lawer o bregethau rhagorol a gwlithog, ag y cafodd rhai achos i fendithio Duw am danynt byth. Ond yn ngwyneb y cwbl, cefnu yr oedd Wiìliam, nes dyfodiad y Parch. Dafydd Jones, laf, i'r gylchdaith hoD, pa un y bendithiodd Duw ei lafur i ennill William i weled y drwg o beehod a'i ganlyniadau, ac mai ei gyflog yw marwolaeth. Yr oeddynt yr amser hwnw yn myned i Benarth i bregethu, a'r noson ganlynol i Cadoxton; a dygwydd- odd i mi ofyn i William, a ddeuai ef gyda mi y noson hòno i glywed Mr. Jones yn pregethu : i hyn efe a'm hatebodd yn sarug iawn, mewn anystyriaeth, na ddeuai ddim;—am ei fod y nos o'r blaen wedi bod yn gwasanaethu y diafol mor ffyddlon, pa lesâd fyddai y bregeth iddo ef ? Ond trwy daerineb efe a ddaeth. Y tro <hwn y cafodd achos i foliannu Duw am ei ryfeddol gariad a'i ddaioni at bechadur colledig. Cymhwyswyd y genadwri at ei ,gyflwr, ac efe a fu yn ufydd i'r alwedigaeth nefol; ni ddiffoddodd yr Ysbryd, ac ni ddirmygodd y proffwydoliaethau ddim yn hwy ; ond o hyny byd ddydd ei farwolaeth, ymdrechodd William i 2 T