Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EUBGBAWN WJäSLEYAIDD. I03STA.W3R, 1875- COEIANT MR. JOHN JONES, BOLWEN, CAERATT, CYLCHDAITH LLAMDLOES. GAN Y PABCH. ISAAC JENEIHS. Dydd Mawrth, Medi 29ain, 1874, y bu farẃ, a'r dyàd Sadwrn canlynol y claddwyd yr hybarch John Jones, Dolwen, yn y 83ain flwyddyn o'i oedran, wedi bod yn aelod o'r Gymdeithas Wesleyaidd 67ain mlynedd, ac yn breg- ethwr cynorthwyol dros haner can mlynedd. Gan ei fod yn un o ffrwythau cyntaf y Genadaeth Wesleyaidd Gymreig yn ei fro enedigol, ac wedi bod yn ddyn o gymeriad uchel a defnyddiol yn ystod ei oes faith, teimlir y byddai yn annheilwng ynom beidio ysgrifenu ychydig goffadwriaeth amdano. Mr. John Jories óedd ail fab i :Richard a Catherine Jones o Rydygwiail Isaf, yn mhlwyf Llanwrin, sir Drefaldwyn. Ganwyd ef Ionawr 26ain, 1792, ac felly yr oedd ò fewn ychydig fìsoedd yn 83ain mlwydd oed pan fu farw. Yr oedd yn ün o wyth o blant, sef pump o feibion a thair o ferched, ac mae lle iobeithîo eu bód oll Wedi marw yn yr Arglwydd. Yr ofedd y rhieni yn aelodàu trà eelog^yn Églwys y Plwyf, er y byddent yn achlyöúról yn mynéd í wrandaw 'pregéthwỳr y Trefnyddion Calfinaidd. Buont ÿn ofäJúé-iawn i ddwyn etì. plant r íyriy. i ofni Duw, i barchu ei air a'i Wasanaeth, i gádw^r Sâbboth, ac i fyw ýn foesol- Ar y Sabboth, yr oedd yn rheol ŷn y teulu i baẃb 4'r pìaot naiÜ ai myned i le o addoliad, neu ddarllen eü Beiblau gartreE^ !Profbdd yr arferiad yma yn fantais fawr i bob un ohonynt trwy gydol eu hòes. Yn y flwyddyn 1807, yr oedd y diẅeddar Baroli, Edward Jones, Bathaf- arn, yn ymweled â Machynlletli a'r ardalóedd oddiamgylch, a rhyw nos- waith, yn mis Ebrill, yn ý flwyddyn uchod, aeth Jbhn Jones, gwrthddrych ein oofiant, i'w wrandaw, a chafodd y w^ìriidogaeth effaith ddwys iawn ar ei feddwl. Cynelid y moddion ŷr amser hyhý yn nhý John Elias, o'r Cemaes, ac yr oedd arddeliad mawr ar y genadwri. Y nös Sabboth canlynol yr oedd Mr. Jones, Bathafarn, yno drachefn, a phregethodd oddiwrth y 14eg a'r löfed adnodau yn Epistol Judas, a'r tro hwnw penderfynodd roddi ei hun i'r Arglwydd ac i'w bobl. Bu am beth amser mewn gwasgfa a gofid blin yn achos ei gyflwr, ond ryw nos' Sabboth, wrth fwrdd yr Arglwydd, yn Tŷ Ceryg, cafodd olwg ar Grist yn marw yn ei le, a hyny, fel y dywedai yn fynych ar ol hyny, mor amlwg a phe buasai yn edrych arno â'i lygaid natur- iol. Galluogwyd ef i gredu ynddo â'i holl galon, ac mewn canlyniad, teimlodd ei fynwes yn cael ei llenwi â thangnefedd, a llawenydd, a chariad. Nid oes dim dyeithr a newydd yn hyn, canys dyma'r cwrs-weithrediad cyff- redin y mae pawb yn cael eu dwyn trwyddo pan y maont yn cael eu henill o farwolaeth i fywyd, ac o feddiant satan at Dduw. Yn y lle cyntaf, mae y pechadur yn cael ei argyhoeddi o'i bechod, yn fynychaf, trwy gymhwyso y ddeddf at ei ddeall a'i gydwybod; mae hyn yn ei arwain, oddieithr iddo wrthsefyll a gwrthwynebu, i edifeirwch am bechod a thaer ddymuniad am waredigaeth oddiwrtho. ÉTid yw pob edifeiriol yn dyfod i gredu yn Nghrist B Cẅ. 67.