Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

2/r ^urgraWn Wed/et/atcfcf. Cyf. XCVI. RHAGFYR, 1904. Rhif 12. Çofiapt y Parcb. ^&mael Davies. Gan y Golygydd. Ei Wasanaeth fcl Ysgrifenydd y Dalaeth—Fel Cadeirydd—Ei Dysteb—Ei Allu fel Pregethiur, Gweinidog, ac Arolygwr—Ei Safle Gyhoeddus—Ei Dduwioldeb—Ei Dílhüedd Gorfoleddus -Llythyr yr Hybarch Richard Roberts, Llundain. ;j£J WNAETH wasanaeth bwysig i'r Dalaoth fel Ysgrifenydd Cyllidol, l\jj[ er na chyfeirir ato yn fynych fel y cyfryw. Llanwodd y swydd o'r flwyddyn 1858 hyd 1865, cyfnod o saith mlynedd. Ysgrif- enydd y Dalaeth ydyw Ehaglaw {Lìeutenant) y Cadeirydd. Efe sydd i'w gynysgaethu â ffeithiau ac ystadegau, ac i'w gynorthwyo i gyflawni ei waith. Gwnaed hyny yn effeithiol gan Mr. Davies. Fel y crybwyll- wyd, yr oedd yn gryf yn y pethau hyn; ac ni chafodd Mr. Aubrey drafferth i gael adnoddau ei ddadleuon yn nglyn â dygiad y gwaith yn mlaen. Bu yn bob cymhorth i Mr. Aubrey i godi y mil picnau cyntaf tuag at ffurfio y Drysorfa Fenthycol yn y Dalaeth. Ond efallai fod y drafferth fwyaf yn y cyfnod hwnw i gael Trysorfa y Genadaeth Gar- trefol i weithio. Er fod y mwyafrif yn cymeradwyo y cynllun, yr anhawster oedd ei weithio allan yn y cylchdeithiau. Bu llawer dadl frwd yn y Cyfarfodydd Talaethol a Chyllidol ar y mater. Tra yr oedd Mr. Aubrey yn siarad gydag awdurdod a nerth, yr oedd Mr. Davies yn enill a pherswadio gyda'r swyn oedd yn ei bersonolaeth. Tawelodd aml i gyffro gyda'i wên, a'i eiriau caredig. Llwyddodd yn fwy na neb arall i gael yr olwyn i droi yn esmwyth a llwyddianus. Ond fel Cadeirydd y gwnaeth y wasanaeth fwyaf i'r enwad. Fel y dywedwyd yn barod, efe ddyfalodd gynllun Trysorfa y Rhad-roddion, ac a lwydd- odd i weithio y cynllun allan; efe chwyddodd swm y Drysorfa Fenthycol; efe sefydlodd y Gymdeithas Fenthycol; efe lwyddodd i gael miloedd o bunau o'r Drysorfa Ddiolchiadol. Mewn gair, gwnaeth fwy na neb arall i osod ein Trysorfeydd yn yr amgylchiadau cysurus y maent ynddynt. Ond mwy na hyny, efe ofalodd fod y Trysorfeydd yn cael eu gweinyddu yn y ffordd oreu i lesau yr achos. Gwnaeth hyny ar draul colli gwên ambell un ar y pryd, er fod pawb 'yn gorfod cydnabod 11