Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^r ^urgranm i^e^Cepatòò. Cyf. xcvii. MEHEFIN, 1905. Rhif 6. Çofiapt nr. Çumpbrey r}ar»pbreys, BRYN TEG, CYLCHDAITH LLANFYLLIN. GrAN Y PARCH. RlCHARD MORGAN (a). n\o N y cyfnod o drigain i haner canmlynedd yn ol, yr oedd Cylch- Sjjg) daith Llanfyllin yn hynod yn mhlith Cylchdeithiau Cymru, ar gyfrif lluosogrwydd ei phregethwyr cynorthwyol. Am yspaid o amser o fewn i'r cyfwng tra dyddorol yna, yr oedd rhestr y brodyr defnyddiol hyn yn cynwyscynifer a phump-ar-ugain o enwau. Methais ddodi fy llaw ar hen blan yn myned mor bell yn ol a'r cyfnod yna. Ond mae'r enwau yn glir, ac o'r bron yn berffaith o ran trefn ar fy nghôf heddyw. Yn y rhestr faith hon, wrth gwrs, yr oedd "amryw ddoniau," rhai gwŷr cryfion a disglaer, ac ereill yn wanach a mwy cyffredin. Y tri ohonom a safai yn isaf ar y rhestr faith, fel dynion ieuainc newydd ddechreu pregethu, yn mlynyddau olaf y cyfnod y cyfeiriwn ato, oedd Mri. William Thomas, Edward Parry, a Richard Morgan. Buasai yn hawdd i mi roddi yr enwau yn llawn yma, ac yn y drefn yr arosant ar fy nghôf, yn rhes hyd i bump-ar-ugain. Ond rhag trespasu gormod ar ofod yr Eurgrawn ni wneir ond enwi nifer o'r rhai hynaf a mwyaf amlwg ar y plan, gan wneyd ychydig nodiadau byrion ar eu neillduolion, er mwyn ceisio dangos safle ein gwrth- ddrych yn ei berthynas â hwy. Y blaenaf yn y rhestr anrhydeddus, a'r hynaf mae'n debyg, oedd Mr. Edward Lloyd. Amaethwr parchus oedd Mr. Lloyd, yn byw yn Ty'ntwll, ger Llanfyllin, ond yn arfer a myned oddiamgylch yn y gylchdaith eang i efengylu ar y Sabbothau. Gŵr tàl ydoedd, gyda gwyneb glan a difarf o'r bron. Yrr oedd ei wallt tywyll wedi britho yn drwm pan yr adwaenais i ef gyntaf. Marchogai geffyl da a graenus i'w gyhoeddiadau, y rhai a gedwid yn ffyddlon ganddo ar bob tywydd. Gwisgai goban uchaf laes, o frethyn cartref llwyd-ddu, haf a gauaf. Caffai Mr. Lloyd dderbyniad croesawgar bob amser, ac yn mhob lle trwy'r gylchdaith. Yr oedd tri pheth yn cyfrif am y croesaw cyffredinol roddid i "Lloyd, Ty'ntwll." Ei gymeriad cref- yddol uchel a dilychwin, ei safie barclius fel gwladwr a chymydog