Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^r ^urgranm 129esCepatòò. Cyf. XCVII. MEDI, 1905. Rhif 9. Çofiaot rir. Çümpbrey Çuropbreys, BRYN TEG, CYLCHDAITH LLANFYLLIN. Gan y Parch. Richard Morgan (a). w — tjjL? HAID i ni fyned yn ol eto gryn bellter, er mwyn cael trem ar ^Mj ein gwrthddrych mewn cysylltiad arall. Tua chanol haf y flwyddyn 185-4, cynaliwyd Cyfarfod Pre- gethwyr Cynorthwyol pur enwog yn Rhos-y-brithdir. Yr oedd y Parchn. William Owen, Arolygwr y Gylchdaith, ac Evan Pugh, yr ail weinidog, yn bresenol yn y cyfarfod, yn nghyd â Mri. Lloyd, Ty'ntwll; J. Jones, Llanwyddyn ; H. Humphreys, Cornorion ; Eilis Jones, Croesoswallt; D. Edwards ac Edward Jones (ieu.), Llanfyllin ; R. Morgan, Llanrhaiadr; a thri neu bedwar ereill o'r brodyr cynor- thwyol. Ac fel y ceir gweled eto, John Jones, Llanwyddyn, a'i gyfaill Humphrey Humphreys, oeddent y personau amlycaf yn y cyfarfod neillduol hwn. Cafwyd rhai cyfarfodydd pregethwyr rhagorol iawn yn Nghylch- daith Llanfyllin yn yr hen amser gynt, ac yn neillduol yn ystod tymor arolygiaeth y Parch. W. Owen. Daethai Mr. Owen i'r gylchdaith o Dreffynon, lle, fel yr ymddengys, y cawsai gryn íiinder oddiwrth ystranciau ychydig bersonau a elwid "Diwygwyr" (Reformers), yn cael eu harwain ar y pryd gan un Robert Jones, Maesglas, hen bre- gethwr cynorthwyol gyda ni; a'r gŵr hwnw fel pe wedi myned ar ei lw yr achosai efe gymaint o ationyddwch a thrafferth i'r Parch. Wm. Owen ag oedd yn ei allu, a ddaeth ar ei ol i Lanfyllin, gyda g\vr arall o'r De, o gyffelyb anianawd iddo ei hun. Gwnaeth y ddau hyn eu goreu—eu gwaethaf, feallai, i wenwyno meddyliau y staff gref ac enwog o bregethwyr cynorthwyol oedd genym ar y gylchdaith, a chwerwi ein swyddogion a'n haelodau egiwysig yn erbyn y Gynadledd a'r Cyfundeb. Ond yr oedd Mr. Owen yn \Vr profiadol erbyn hyn, wedi adnabod eu dichellion hwynt, ac fel gwyliedydd effro a gofalus, mae yn rhybuddio y pregethwyr a'n pobl trwy'r gylchdaith yn erbyn y terfysgwyr hyn. Ac er i'r "Diwygwyr" ymweled â phrif leoedd y gylchdaith—Llanfyllin, Llanrhaiadr, Llangynog, &c, i dywallt allan eu chwerwedd anwireddus, ni lwyddasant yn eu hamcan o gwbl. l a