Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yr Eurgrawn Wesleyaidd. Cyf. 01.] IONAWR, 1909. [Rhip 1. CANMLWYDDIANT YR "EURGRAWN." ATURIOL a buddiol yclyw dathlu digwyddiadau mawr a phwysig y gorffenol. Mae ein natur yn gogwyddo at hyny. Dyna paharn y perchir dydd-gylch genedigaeth, priodas, a marwolaeth ar raddfa mor gyffredinol. Gall, a dylai fod o wasanaeth. Mae adgofìo digwyddiadau mawr a phwysig yn deíîro ystyriaethau sydd yn gymhellion i ymgysegriad llwyrach ymhlaidyr hynsydd yn dyrchafu dyn, ac yn gogoneddu Duw. Yr oedd llawer o gylch- wyliau y genedl gynt o osodiad Dwyfol, a hyny am fod adgofìo pethau mawrion y gorffenol yn gyfaddas i'w henill i ufudd-dod ac ymgysegriad llwyrach i ddeddfau a barnedigaeth.au y Dwyflywiaeth. Hwyrfrydig fu y Cymry i barchu coffadwriaeth y gorffenol, ac i ddathlu gorchestion ei gwroniaid a'i gwasanaethwyr. Ond yn ddi- weddar mae arwyddion ein bod yn yraddeffro i'n rhwymedigaeth. Yn y fiwyddyn 1893 dathlwyd tri chan-mlwyddiant marwolaeth John Penry, merthyr cyntaf Ymneillduaeth Cymru. Yn ddiweddar cyfodwyd cofgolofn i goffadwriaeth Hngh Owen o Fronclydwr, yn Llanegryn, un o'r Tadau Ymneillduol mwyaf efengylaidd a llafurus. Mae cofgolofn i Syr Hugh Owen yn Maes, Caernarfon, yn goffhad am ei wasanaeth ynglyn âg addysg y genedl ; a gallesid enwi arnryw ereili. Yr ydym ninau fel enwad wedi dechreu symud yn yr un cyfeiriad. Dathlwyd Canmlwyddiant dechreuad Wesleyaeth Gymreig yn y Dywysogaeth yn y flwyddyn 1900. Adeiladwyd amryw Gapeli Coffadwriaetho),—un yn Rhuthyn, er cof am Jones, Bathafarn ; un yn Cefn-coed-y-cymer, er cof am Thomas Aubrey ; ac un yn Ponty- pridd, er cof am John Evans (Eglwysbach). Yn awr yr ydym yn ymgymeryd â dathlu Canmlwyddiant yr Eurgrawn Wesleyaidd. Mae rheswm am hyny. Efe ydyw y cyhoeddiad misol hynaf yn y Gymraeg. Dygwyd allan y rhifyn cyntaf yn Ionawr, 1809, ac y mae wedi parhau i ymddangos yn ddi- fwlch byth er hyny. Bu ei ddygiad allan yn achlysur, a dyweyd y lleiaf, ddygiad allan gylchgronau yr enwadau ereill. Dywed Dr. Rees yn ei"History of Protestant Nonconformity in Wales " iiiai