Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yr Eurgrawn Wesleyaidü. Cyf. 01.] EBRILL, 1909. [Rhip 4. Y PARCH. DAVID ROGERS. Gan y GOLYGYDD. fl— Ei Hanes Boreuol. R wahan i berthynas David Rogers a'r Eurgrawn fel gohebydd .r;„, a golygydd, y rnae yn teilyngu lle amlwg ynglyn â dathliad ^^ y Canmlwyddiant ar gyfrif yr abenigrwydd a berthynai iddo. Ni bu yn y weinidogaeth ond am bedairarbymtheg o fìynyddoedd, a threuliodd chwech o'r rhai hyny yn y gwaith Seisnig, fel na chafodd y Cymry ond tair-blyned'1-arddeg o'i wasanaeth, a hyny yng nghyf- nod blaenaf Wesleyaeth Gymreig ; ac eto nid oes odid neb sydd wedi diogelu mwy o anfarwoldeb. Ychydig o bobl, mewn cymhar- iaeth, a gyfarfyddais oedd yn ei gofìo yn bersonol ; ac mae'r ychydig hyny, erbyn hyn, wedi myned " ffordd yr holl ddaear "; er hyn oll y mae ei enw yn fwy adnabyddus nag odid i neb o'r tadau, ac yn enw sydd yn cael ei barchu a'i anwylo gan bawb sydd yn cymeryd dyddordeb yn hanes Wesleyaeth Gymreig. ]$^s gall fod cyfrif am hyn, ond yr arbenigrwydd a berthynai iddo. Yr amcan yn hyn o ysgrif fydd chwilio allan y neillduolion sydd wedi rhoddi nod arno. Mae y defnyddiau yn hynod o brin. Bron nad yw yr oll yn gyfyng- edig i'r sylwadau a wnaed arno yn " Hanesiaeth y Methodistiaid Wesleyaidd " ymddangosodd yn Eurgrawn 1829, gan y Parch. John Williams yr 2il. Cwynai ef y pryd hyny fod y defnyddiau yn brin tuag at" draethu ei oes," er nad oedd ond pum mlynedd er pan orff enodd ei daith ddaearol, a'i gydlafurwyr eto yn aros. Dywedai nad oedd wedi gadael cofnodion am dano ei hun, er bod o unrhyw gymhorth. Yr wyf yn amheus a ydyw hyny yn gywir. Daethum i gyfathrach â merch iddo ychydig o flynyddau yn ol. Holais hi, onid oedd ei thad yn cadw Dyddlyfr ? ac od oedd, oni allesid cael gafael arno, am y gallasai fod yn foddion i daflu goleuni ar Wesleyaeth Gymreig yn y dyddiau gynt ? Yr ateb oedd, fod ei thad yn cadw Dyddlyfr, ond fod y Parch. Hugh Carter wedi cael ei fenthyg gan ei mham, a'i bod wedi methu ei gael yn ol. Anfonodd i mi yr hyn oedd yn aros o'i lyfrau Cymreig, ac o'ilaw-ysgrifau. Mae y rhai hyny yn fy meddiant yn awr, ac yr wyf yn rhoddi pris mawr arnynt ; ond ychydig o