Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

474 Hanes yr Achos ynq Ngfiorris. dano), roddi y tir am ddim—gwerth £205— Grant o £220 gan y Llywodraeth, a ohasglwyd yn y gymdogaeth y swm o £525 i orffeo talu am dano. Agorwyd yr Ysgol y dydd oyntaf o Hydref, 1872. Ni phetrusaf ddyweyd fod Wesleyaid Corris wedi gwneud eu rhan yn deilwng yn yr Ail Frwydr hon eto. Yr ysgarmes nesaf ydoedd helyntion y Bwrdd Ysgol. Mr. Evan Jones w«di gadael yr ardal erbyn hyn, mi gredaf, a'r Parch. William Williams (Talsarn yn awr\ yn Rehoboth yn olynydd iddo, ac fel yntau, taflodd ei holl egnion i'r ymdrech. Yr un pleidiau oedd ein gwrthwynebwyr o hyd. Gwrthwynebent sefydlu Bwrdd i ddechreu, wedi hyny gwrthwynebent drosglwyddo yr Ysgol Frytanaidd i'r Bwrdd. Ond nid oedd pob gwrthwynebiad yn gwneud dim ond pentyru methiant ar gefn methiant, a phleidwyr Addysg Rydd yn myned ynfwy hyf o hyd. Teg ydyw dyweyd ddarfod i Ymneillduwyr Corris, fel rheol, sefyll fel Adamant yn erbyn dylanwadau pur gryfion a ddygid i orffwys arnynt, o rai cyfeiriadau, ond daliasant eu tir yn ddi- ildio. Meiddiaf ddyweyd fod y Wesleyaid, fel un o lwythau Israel yn y lle, wedi gwneud eu rhan gyda'r enwadau ereill, er enill y buddugoliaethau hyn. Pan ethol- wyd y Bwrdd Ysgol cyntaf, daeth un ohonynt allan ar ben y poll, a chafodd yr an- rhydedd o fod yn Gadeirydd y Bwrdd am chwe mlynedd, a chafodd ereill ohonynt yr unrhyw anrhydedd yn eu tro, mi gredaf. Diameu genyf fod y personau gymer- asant ran yn helyntion y blynyddoedd y cyfeiriwyd atynt, yn teimlo yn anrhydedd ddarfod iddynt gael y fraint o wneud rhyw ychydig tuag at ddyrchafu yr ardal yn gymdeithasol, yn foesol, crefyddol, ac addysgol, ac ni byddai yn sỳn genyf os oes rhai ohonynt yn teimlo, pe na chaent ond "careg arw a dwy lythyren " i nodi "man fechan eu bedd," y byddai y tri ysgoldy sydd yng Nghorris megys tri throed trybedd, —un yn Abercorris, y llall yn Aberllefenni, a'r trydydd yn Ty'nyberth, yn ddigon o gof-golofn ganddynt, am eu bod wedi dwyn manteision Addysg elfenol o fewn cyrhaedd pob plentyn yn y plwyf. Prin yr wyf yn tybio y byddai yn weddus terfynu hanes Wesleyaeth'yng Nghorris yn swn magnelau brwydrau dadleuol, am hyny ymdrechwn godi i dir ychydig yn uwch, i anadlu awyr iachach a chliriach. Oredwn y dylid dyweyd y perthynai i Gorris yr hyn a elwid yn Gymdeithas Lenyddol a Chyfarfodydd Cystadleuol, pa rai oeddynt yn flodeuog rhwng 1850 a 1860. Yr oeddynt yn boblogaidd iawn, a chyrchai iddynt lawer o ieuenctyd goreu yr ardal. Rhoddasant gychwyn da i aml fachgen ieuanc trwy eu tynu allan a'u dwyn i ddechreu meddwl drostynt eu hunain ; a diameu iddynt fod yn fanteisiol i ddwyn i'r golwg dalentau fuasent o bosibl yn guddiedig byth. Tynid allan eu galluoedd a'u hadnoddau fel Beirdd, Cerddorion, Traethodwyr, Areithwyr, a Phregethwyr, yn ol eu gwahanol ddoniau. Credaf fod yno un bachgen ieuanc fuasai yn sicr o ragori fel Bardd pe cawsai fyw, sef Robert, mab ieuengaf Robert a Jane Roberts, Carreg- lwyd, fel ei hadnabyddid unwaith, " Sbop Newydd," wedi hyny. Yr oedd " Robin bach," fel ei gelwid, yn un o'r bechgyn anwylaf yn yr holl fro, hoffid ef gan bawb, ac at y cwbl yr oedd yn fachgen ieuanc da iawn, yn enwedig adeg y Diwygiad. Mynych y deuai yr amser hwnw, ar ol terfynu y moddion yn Rehoboth, i fyny i Garmel i fwynhau gweddiau, a chyd-orfoleddu á dau neu dri o'i hoff gyfeillion. Ond er gofid i ardal gyfan, cyfarfyddodd â damwain angeuol yn chwarel Braichgoch. Pe heb hyny, diameu y gallesid bardd rhagorol ohono. Eos Bradwen hefyd, yr adeg yma, yn gynar yn y Fiftiei, y dechreuodd yntau ymddatblygu fel Cerddor. Yr wyf yn ei gofio yn dda yn gweithio yn fy ymyl yn " Tyllau'r Coed," Gaewern, pan y neidiai i fyny oddiar y fainc naddu, ac âi o'r neilldu am ychydig fnnudau, pryd y dychwelai yn ol a llechan yn ei law, ar yr hon y byddai weii dotio rhyw ddarn o dôn oedd wedi rhedeg trwy ei fenydd ar y fainc, a rhag iddo ei cholli, yn ei tharo i lawr ar ddarn o lechan. Afreidiol dyweyd iddo ddod yn Gerddor, a chyfansoddwr rjaagorol.