Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YB EÜI|GRAWN WESLEYJUDD. MEDI, 1896. PEEGETHU'E IESU. TltADDODWTl) T BREGETH HON OAN y pabch. d. j. walleb, d.d. (Llywydd y Oynadledd), Yn Nghyfarfod Talaethol Llanbedr-Pont-Stephan, Mai SOfed, 1896. " A Phylip a agorodd ei enau, ao a ddechreuodd ar yr Ysgrythyr hono, ac a bre- gethodd iddo yr Iesu."—Actau viii. 35. tijHr AE'r adroddeb ddyddorol hon yn dwyn ger eia bronau ddau ,[|Jj| ddyn—Phylip yr Efengylydd, gweithiwr dros Grist, a phendefìg *V*^ o Ethiopia, yr hwn ydoedd ymchwiliwr ar ol y gwirionedd. Cymerodd yr olygfa le yn y parth sydd yn gorwedd rhwng Phoenecia a'r Aifft. Ar hyd ffordd yr anialwch, yr Ethiopiad hwn, o uchel fonedd ac awdurdod, a weithiai ei ffordd tuag adref. Mae'n amlwg ei fod yn ŵr bucheddol, oblegid buasai yn Jerusalem yn addoli; ac yn awr, tra yn dychwelyd tuag adref darllena ròl proffwydoliaeth gysegredig. Y rhan o'r Ysgrythyr sanctaidd a lyncai ei sylw ydoedd dysgrifiad proffwydol- iaethol Esaia o ddioddefaint ein Harglwydd. Yr oedd y testyn hwn iddo ef y dirgelwch dyfnaf yn bosibl, ac yn gyfangwbl o'r tuhwnt i gyraedd ei amgyffredion. Yr oedd y Person a ddysgrifid i feddianu y gogoniant uwchaf, ac ar yr un pryd i fod yn ddeilydd y darostyngiad a'r dianrhydeddiad dyfnaf; yr oedd i gael ei ddyrchafu, a bod yn uchel iawn, ac eto yr oedd i fod yn " ddirmygedig a diystyraf o'r gwýr, gŵr gofidus a chynefin â dolur." Yr oedd ei " wedd " i fod yn " llygredig yn anad neb, a'i bryd yn anad meibion dynion." Ni wyddai am bwy y llefarasai y proffwyd, pa un ai amdano ei hun, ai am rywun arall. Teimlai ei angen am addysgydd, a phryderai am oleuni ar y rhòl gysegredig. Nid oedd Duw yn ddifeddwl parthed yr ymchwilydd defosiynol ac aiddgar hwn ar ol y gwirionedd. Eisoes mae wedi ffiyned i waered o Jerusalem i Gaza, yr hon sydd annghyfanedd; ac efe a gyfododd, ac a aeth " (adn. 27—35). Pe gweithredasai dyn yn y ffiodd y gwna Duw yma, gosodasai ei hun yn agored i feirniadaeth anffafriol. Dyma Phylip yn nghanol diwygiad crefyddol yn Samaria. I olwg dyn, mae ei bresenoldeb ar y maes hwnw yn hanfodol megys i lwyddiant y gwaith. Byddai ei symudiad yn niwaid i'r achos. Ond Qid dyna feddwl Duw. 0 ganol ei lwyddiant mewn hen gylchdaith symudir ef yn hollol ddirybudd; yn lle bod yn bregethwr y miloedd ar 2 o Oyf. 88.