Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DYSGEDYDD CREFYDDOL. Rhif. 1.] IONAWR 1, 1822. [CYF. I. HANES BYWYD, DIWEDDAR BARCH. LEWISREES; Yr hum a fn unwaith yn Webädog yr Efengyl yn Llanbrynmair, ac wedi hyny y» Abertawe. Y Pahchedig Lewis Rees, a anwyd yr ail dydd o Fawrth, yn y flwyddyn 1710, mewn tý a elwir Glynrhyuodre, yn mhlwyf Glyncorwg, yn agos i Blaengwr- acìi, yn nghymydogaeth Castell- nedd, sir Forgànwg. Enw ei dad oedd Rees Edward Lewis, yr hwn oedd yn fab i offeiriad ag oedd yn gwasanaethu plwyf Penderyn. Nid ydys yn gwybod ond ychydig am rieni Mr. Rees, ond eu bod yn ddynion crefydd- ol, yn aelodau o eglwys Blaen- gwrach, ac yn gysurus eu ham- gylchiadau bydol, yn dal tyddyn bychan o dir. Pan oedd Mr.Rees y n blentyn, cafodd ei roddi yn yr ysgol,gyda Mr. Henry Davies, gweinidog Blaengwrach, yr hwn oedd yn wr duwiol, a dysgedig, wedi ei ddwyn i fynu yn \throfa Caer- fyrddin, ag oedd y pryd hyny dan ofal y Parch. Mr. Perot. Dygwyd meddyliau Mr. Rees dan argraffiadau crefyddol, de- bygid, pan nad oedd ond ieu- angc, a chafodd ei dderbyn, yn ddiau, er mawr gysur i'w rieni duwiol, yn aelod yn Blaengwr- ach. Yn fuan ar »1 ei dderbyn- iad, cafodd yr eglwys y fath foddlonrwydd yn ei dduwioldeb, ei gynnydd mewn gwybodaeth, ac |'n neiüduol, ei ddawn rba- gorol mewn gweddi, fel ag y darfu iddynt ei annog i fyned i'r ysgol at Mr. Henry Davies, eu gweinidog, gyda goìwg ar y weínidogaeth, gan addo, yn garedig, ddwyn ei draul. Ar ol ymadael â'r ysgoí yma, bu Mr. Rees, dros ryw amser, gyda Mr. Simons, yn yr ysgoí yn, neu yn agos i, Gastelinedd. Symudodd oddiyno, ac aeth dan ofal Mr. Price, o Ty'nton, tad cu yr enwog diweddar Dr. Price, o Lu.ndain, yn agos i Benbont- arogwyr. Ar ol bod dros ys- paid o amser dan ofal Mr. Price, aeíh i Athrofa, ag oedd y pryd hyny dan ofal Mr. Vavasor Griffiths, yn y Maes-gwyn, yn sirFaesyfed. Ar ol bod yn yr Athrofa hon, dros rai misoedd, Mr. Griffiths, ei Athro, wrth weled ei ddoniau a'i gymwysiad- au mor rhagorol, ac hefyd ei fod yn meddiannu mesur dymunol o ddysg, a'i cynghorodd i beidio aros yn yr ysgol, ond ymroddi y pryd hyny yn gwbl i waith y