Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DYSGEDY CREFYDDOL Rhif. 1.] IONAWR, 1823. Cvf. II.] HANES • BYWYD, PARCHEDIG EDMUND JONES. Y gwr hybarch hwn a fu fyw yn agos i ganrif eyfan, yn was ffyddion i Dduw, a than neillduol nodded y nef- oedd. Ganwyd ef yn mhlwyf Aber- ystwytli yn Sir Fynwy Ebrill 1, 1702, o rieui isel eu hamgylchiadau bydol, ond yn enwog niewn duwioldeb, y rhai a ymdrechasant i feithrin eu mab yn addysg ac athrawiaeth yi Arglwydd, a chawsant yr hyfrydwch o weled eu hauwyl blentyn yn cael ei wneuthur yn gyfranog o ras Duw pan ynieuanc iawn. Gwedi cael trugaredd i'wenaid ei hun, yr oedd yn awyddus i gyhoeddi y ncwyddion da o iachawdwriaeth i eraill; ac yn nghylch dwy ar hugain ocd dechreuodd bregethu yr efengyl yn ei fro enedigol. A bendithiwydei lafur er ffurfio eglwys fechan yno ag sydd yn aros hyd heddyw; mewn un- deb á'r hon ystyriai ei hun, ac i'r hon y byddai yn myned i bregethu yn ach- lysurol tra parhaodd ei ocs. Yn mis Gorphenhaf 1740, arwein- iuydef gan ragluniaeth Duwi gymyd- ogaeth Poutypool, yn ngylch wyth ìiiilldir o'i le genedigol, i fod yn Weinidog sefydlog i gynnulleidfa o Ymueülduwyr, a gasglwyd drwy ei weinidogaelh. Glawodd y Ty-cwrdd Ebenezer, oblegid y cynnorthwyhynod a gafodd trwy ragluniaeth yr Ar- glwydd i'w adeiladu. Yma parhaodd i lafurio fel gweithiwr difeH hyd der- iyn ci fywyd. Yn agos i'r Ty-cwrdd, yr oedd ei orsedd isel, wrth droed mynydd nchel, yn cael ei gylchyuu yn gwbl gan goed. Yr oedd sefyllfa y Ue ac ymddaughosiad hybarchaidd ei breswylydd yn tueddu i arwain me- ddyliau yr ymwelwr achlysurol yn ol i'r oesoedd boreuol, pan nad oedd dim ond symledd a duwiolder yn dynodi gweinidogion Iesu Grist. Yma megis o'r neilldu oddiwrth y byd, y treuliai Mr. Jones ei amser mewn myfyrdod a chyfeillach â'i Dduw. Mawr oedd ei awydd i gyrhaedd, ac nid bychan oedd ei gynnydd mewn gwybodaeth ddefnyddiol, Nid oedd nemawr o ganghenau gwybodaeth nad oedd wedi sylwi arnynt gyda gradd o fanylrwydd. Ag hanesyddiaeth eglwysig, a'r pelh- au a berthyn yn neillduol i waith y weinidogaeth, yr oedd yn dra hyddysg. Er ei fod yn mhell oddiwrth fod yn gyfoethog, yr oedd ganddo gasgliad go helaeth o waith awduron yu ei Lyfr- gell: ac nid oedd prin un o'i lyfrau lieb nodiadau ar ymyl y ddalen, yn ei law-ysgrifen ei hun, yn cyfeirio at y pethau mwyaf pwysig. Pawb a ym- welentâ Mr. Joues, a fyddent yn sicr o'i gael naill ai gyd â'i lyfrau neu gyd à'i Dduw. Ni fu neb erioed yn ddedwyddach mewn Priod na Mr. Jones. Yr oedd Mrs. Joues yn wraig o dduwioldeb mawr, a chynheddfau cryfion. Yn yr oes apostolaidd, pau nad oedd tlodi A 2