Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DYSGEDYDD Riíif. 8.] AWST, 1826. [Cyf. V. COFIANT DIWEDDAR HUGH RICHARDS, DOLGELLAU. YMWELODD yr Arglwydd âg ef yn lledforeu, panyr oedd oddeutu 18 oed, yn y flwyddyn 1746. Yr oedd Hugh Richards y pryd hwn yn fugail defaid. Pan yr oedd ar uu diwrnod tywyll a niwliog yn hugeilio ar hen Bylchau y Figiu, gerllaw Bwlch Oer- ddrws, cafodd ar ei feddwl fyned i weddi: meddyliaí ei fod mewn cyf- leusdra rhagorcl i weddio yn ddirgel, ara na allai neb ei weled yn ymarfer â'r gwaith. Y pryd hwn cafodd hy- frydwch neillduol i'w feddwl; a chredodd mai creadur cyfrifol ydoedd iDduw, a bod ganddo enaid o fwy gwerth na'r byd ; a bod yn rbaid iddo roddi ei hun yn llaw y Cyfryngwr i'w achub, neu y byddai yn golledig am dragywyddoldeb. Yr oedd y pryd hwn yn amser tywyll ac erledigaeth- us ar grefydd, ~ac yn beryglus iawn proífesu enw yr Arglwydd Iesn Grist, na gwneuthnr un gymwynas i y rhai a'i pregethent. Er hyny yr oedd ych- ydig o rifedi yn Nolgellau a'i ham- gylclioedd yn hofn gwrando yr efeng- yl,a chadw cyfarfodyddgweddi gyda'u gilydd yn yr araserodd yma: yn mhlilh y rhai yr oedd y personau can- lynol; Griffith Edward, (yn awr) Menygwr, Siôn Lewis, Siôn Owen, Robert Siôn OUver a'i wraig, Siôn Humphrey,&c. Nid oeddynt yn gofaln y pryd hwnw o ba blaid y byddai y pregethwr a bregcthai iddynt; ond diolchent yn fawr am gael clywed rhyw rai a ddy- wedai wrthynt am werth eu heneid- iau, ac ain Iesu Grist wedi dyfod i'r byd i'w hachub. Ymwasgai Hngh Richards hyd eithaf ei allu u phwy bynag a alwai ar enw yr Arglwydd : —a pharhaoddyn y dull yma am gryu araser. Wedi hyny, gwelodd roai ei le ydoedd rhoddi ei hun yn fwy cyf- lawn i'r Arglwydd trwy ynmno â'i bobl mewn cymmnndeb eglwysig. Ac fel nadoedd cymmundeb rheotaidd i'w gael y pryd hwnw, yn nes ato na Llanuwchllyn, penderfynodd ymofyn am ei le fel aelod o'r eglwys gynnull- eidfaol yno, dan ofal y Parch. Abra- ham Tibbot. Byddai Mr. Tibbot yn arfer pregethu yn Rhydymain, lle oddeutu saith milldir o Lannwchllyu, ar y ffordd i Ddolgellan.—Yr oedd yno gymdeithas fechan wedi ei ffnrfio trwy ei lafur, ond byddai pawb o aelodaii y gymdeithas yma yn arfer myned i gymmundeb i Lanuwchllyn, hyd nesy cafwyd cymmundeb rheol» aidd yn Rhydymain; felly yn y Ile hwn yr ymunodd Hugh Richards gyntaf mewn cymdeitlias eglwysig, ac ai gydag ereill i gymmnndeb i Lan- uwchllyn, lle y derbyniwyd ef yn aelod.—Ond fel yr oedd yr achos yn myned ar gyunydd yn Hhydymain, 2E