Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DYSGEDYDD Rhip. l.] IONAWR, 1824. [CìíF. III. COFIANT Y PARCH. HUW OWEN O FRON-Y-CLYDWR, Sir Feirionydd. *■ R oedd y gwr parchedig a llafurus hwn yn ymbarotoi gogyfer a gwaith y weinidogaeth pan roddwyd mewn grym weithred greulawn yr unffurfiad, yr hyn a fu yn achlysur iddo symyd o Rydychain i Gaerludd. Yn fuan wedi hyn sefydlodd yn ngwlad ei en- edigaeth, a bywiolaethodd ar etifedd- iaeth fechan o'i eiddo ei hun, ac ar- ferai bregethu yr efengyl yn ihad i dylodion yr ardaloedd cylchynawl. Yn ardal dywyll ei enedigaeth, yr oedd fel canwyll yn cynneu ac yn gol- eaaw yn barhaus; ac yr oedd yn dysgleiriaw yn yr oes nosaidd honno, fel seren o'r maintioli mwyaf. Yr oedd ganddo bump jieu chwech o le- oedd i bregethu ynddynt yn Sir Feir- ionydd,* a chynnifer a hyny yn Sir Drefaldwyn. Bu hefyd yn llafuriaw amryẁ ẃeithiau yn Sir Gaerynarfon, * Mae yn debygol fod Pántphylip, yr hwn sydd o fewn oddeutu pedair milldir iLwyngwril,yn nn o'r lleoedd; a hefyd, tŷ bychan yn yniyl capel yr Ymneilldnwyr yn awr yn Nolgellau, yn lle arall ag oedd ganddo.—Dy wedir fod y tý hwn yn cael ei enwi y pryd hwnw, " Tŷ cyfarfod."—Mae yn de- byg inai dyma yr achos ei fod yn cael ýr enw hwn liyd heddyw. a manau eraill. Yr oedd yn ymweled â'r lleoedd hyn yn rheolaidd bob tri mis; a phan elai dros ei gylchdaith unwaith, ati-ddcchreuai. Yr oedd ei bregethau yn fywioglawn a gwresog, ac yn effeithiaw yn ddwys ar y lluaws fyddent yn ei wrandaw. Yr oedd yn llafuriaw yn egn'iol a diorphwys. Teithiai yn fynych y nos fel y dydd, a hyny dros fynyddoedd uchel ar byd ffyrdd geirwon, ac ar dywydd gwlyb ac oer, heb nemawr o ymgeledd, ac yn aml mewn eisiau o angenrheidiau y bywyd hwn. Anarferoliawnyprofai gig neu ddiod gief; ei ymborth penaf ydoedd Ilaeth, yr hyn oedd fwyaf cyffredin a hawddaf ei gael yn y tai tylodion lle y byddai yn lleíya. Yr oedd yr ymborth agosaf at law bob amser yn ei foddloni: byddai yn ddi- olchgar am yr ymgeledd waelaf; a chysgodd yn dawel lawer noson ar wely o wellt. Yr oedd yn dra nodedig o ran ei addfwynder a'i ostyngeiddrwydd ; ys- tyriai ei hun megis "y llai na'r lleiaf" o weinidogion Iesu Grist. Arferai ddywedyd, uad oeddyn cynfî- genu wrth ddoniau neb, ac nad oedd yn ymawyddu am ychwaneg o ddawn, oild mai ei brtf ddymuniad oedd tael A 2