Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Rhif. 153.] MEDI, 1834. [Cyf. XIII. COFIANT MISS JANE ROBERTS, BALA. MARW sydd amgylchiad sobr a difrifol iawn, a buan y teirtila pawb o'r byw gyf- yngdra yr amgylcUiad ofnus yma; "Canys gosodwyd i ddynioti farw unwaith." Yn- fydrwydd penuf dynion ydyw anghofio sicrwydd ac agosrwydd yr amgylchiad hwn, oblegid oddiar yr amgylchiad yma y rhuthra liawer yn mlaen mewn pechod, y treuliant eu hoes mewn anystyriaeth, ac y diweddant lii mewn trueni tra»-ywyddol. Mynych y gelwir arnom i gofio breuolder ac ansicrwydd ein hoes, amlwaith y gelwir arnom i'w ystyried gyda sobrwydd trwy farwolaeth un ag y mac genym le i ofni ei fod erioed heb ddarparu gogyfer â'r am- gylchiad, ac amlwaith hefyd i alaru gyda hiraeth ar ol un ag y byddo genym hyder gobcithiolei fod wedi newid ei le daearol am tlrigfa nefol. Felly yr ydys yn hyderu yn obeithiol am wrthddrych y cofiant hwn. Ganwyd MissJane Robertsyn y flwyddyn 1768. Ei rhieni oeddynt Robert a Gwen Llewelyn o'r Hendre mawr, yn mhlwyf Llanycil, swydd Feirionydd. Dechrenodd broftesu yn yflwyddyn 1782,aderbyniwyd hi yn aelod rheolaidd gyda'r Eglwys Gyn- ìiulleidfaol yn y Bala pan ydoedd yn bedair ur ddeg oed, a chafodd y fraint o bara gyda chrefydd hyd ei bedd. Yn yspaid y deuddeng míynedd a deugain ag y bu gyda chrefydd cyfarfu â llawer o dywydd mawr, a thystiolaethai yn fynych iddi fwynhau llawer o gymdeitbas a phre- sennoldeb ei Duw. Dywedai ynfynychmai ei hyfrydwch ydoedd croesawu gweinidog- ion y gair, a bu yn dra lleteugar i weision Crist yn ei thymmor, megys ag y guli llawer o weinidogion yr / Annibynwyr dystio. Nid ydoedd un amser yn iachus iawn. Yr ydoedd yn dyoddef llawer iawn oddiwrth boen yn ei hafu a1i chefn, ond mwy na chyffrediu ýn yspaid y mis diweddaf. Ni bu Hawer o gyfnewidiad arni hyd ei diwedd. 33 Gwaelu yn raddol a wnaeth. Gallodd gerdded i'r capel Ebrill 6ed, pymthegnos cyn ei marwolaeth, ond ychydig oeddym yn ci feddwl mai hwnw ydoedd y Sabboth cymuudeb diweddaf iddi gyda'i chyfeiUion yn ngwlad y cystudd mawr. Ac yr ydoedd yn gallú Codi a cherdded gydag ychydig gymhorth o'r uwchlawr i'r gegin hyd yn oed o fewn deuddydd cyn ei marwolaeth. Tfwy holl dymmor ei llesgrwydd yr ydoedd ei hysbryd yn dawel, ei hymad- roddion a'i chyfeillachau yn dra chrefyddol, ac yn rhoddi Uawer iawn o foddlonrwydd i'r rhai ydoedd yn eu mwynhau. Yn yspaid yr wythnos ddiweddaf o'i llesgrwydd, gadawodd dystiolaeth eglur yn mynwesaü ei chyfeillion ag ydoedd yn breseunol, fod ei chyflwr yn ddiogel, fod marw yn elw iddi, ac y gwelid hi cyn pen hir "heb na brycheuyn na chrychni, nadim o"r cyfryw." Trwy ei holl lesgrwydd corftbro! rhoddai arwyddion mynych ei bod yn teimlo yn fawr dros ogoniant achos Crist. Ychydig cyn ei marWolaeth dywed- odd wrth ymddyddan am uu hen chwaer ag ydoedd wedi gadael Eglwys yr Annibyn- wyr, a myned at çnwad arall yn y dref, o herwydd rhyw reswin adnabyddus iddi ei hun, mae yn debyg, ond nid i'r Eglwys Annibynol,—"Ow ------ druan, gadael yr achos yn ei wendid, troi oddiwrtho yn ei hen ddyddiau. Nid oedd hyny yn arwydd o grefydd, nac yn ogoniant i achos Crist. Ow, ow!!" Dywedai yn fynych fod crefydd yn " werthfawrocach na'r gemau," ac mai myfyrio ar gyfiawnder difrychenlyd Crist ydoedd ei hyfrydwch penaf. Yrydoedd wedi llwyr ddarfod â phob peth gweledig, gan gWbl ymroddi j,ewyllys ei Thad nefol. Mawr oedd ei hiraeth am gael ei "dattod, a bod gyda Christ." Boreu ddydd Llun, yr21 o Ebrill, 1834, dywedodd fod yr amser yn bur hir yh dyfod i ben iddi gael myned adref; ond yn y