Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Rhif. 170.] IONAWR, 1836. [Cyf. XV. PRAWF BAXTER. IN nheyrnasiad Siamas II. cafodd tri o wỳr atgas gan y brenin, y pabyddion, a gweuieithwyry llŷs, eu profi a'u condeinnio (yr olaf yn eglur argam) gerbron y barnwr anghyfiawn hwnw, JefFreys, byth-gofus warth ei wladj nid aungen, Titus Oates, Thomas Dangerfíeld, a Ricbard Baxter. Yr olaf yw testyn yr hanesyn canlynol. Richard Baxter, gweinidog Presbyter- aidd, enwog am ei ysgrifeniadau helaeth yn oed amser y teifysgoedd gwladol blaenorol, o blaid ei grefydcLei hun yn erbyn Eglwys Loegr, oedd y drydedd engraiíFt ysywaeth o diriondeb y llywodraeth newydd. ('Tos- turi y drygionus sydd greuíavvn.') Gan nas geílid gyru yn mlaen yn ei erbyn oblegid ei Iyfrau a gyhoeddasai yn amser y terfysg- oedd, o herwydd y gyfraith o bardwu a diogelwch a wnaethid, cymmerwyd achlysur i'w gosbi am lyfr diweddar a gyhoeddasai, dan yr enw, ' Rhydd-ddeongliad ar y Tes- tament Newydd,' yn yr hwu haerid fod amryw ymadroddion terfysgus, a thra di- ystyrllyd o'r esgobion. Pan ddygwyd Baxter gerbron JefFreys yn mrawdlys y brenin, ac y gofynodd am amser hŵy i ym- barotoi erbyn ei brawf, y barnwr hynod hwnw, yn ol ei greulondeb arferedîg, a fonllefodd, ' Ni roddaf iddo fynyd o amser yn mhellach er mwyn achub ei fywyd: yr ydym wedi bod yn ymheldrin â math ereill o wŷr, ond yn awr y mae genym un o'r saint i ymdrafod ag ef; ac mi a wn i pa fodd i ymdrin â saint yn gystal a phechad- uriaid. Dacw (eb efe) Oates yn sefyll i fynu yn y rhigod, ac y mae yn baldordd mai dros y gwirionedd y mae yn dyoddef; felly hefyd y mae Baxter yn brygawthen; eithr pe safai Baxter ar ochr arall y rhigod gydag ef, mi a ddywedwn, dyna'n sefyll i fynu y ddau ddihiryn penaf drwy'r holl deyrnas.' Dyna fel y rhagbarotoai ybarn- wr barbaraidd feddyliau gwŷr ycwêst, cyn iddynt glywed un gairo'rdystiolaeth. Rhy hirfaith ac afraid a fyddai adroddiad manwl o gyhuddiad Baxter, a'i amddiffyniad. Y prif bwnc ydoedd amlygu, aellid cyfaddasu rhyw ymadroddion pendant yn ei lyfr diw- eddar ef at Esgobion EglwysLoegr, ai ynte at Wŷr Rhufain yn unig y cyfcirient. Un o gynghorwyr Baxter addadleuai'n gadarn nas gellid, heb draws-ddeongliad, gyfadd- asu yr un o'r ymadroddion at Esgobion Eglwys Loegr. Ar y pegwn yma yn unig yr oedd y cwbl yn sefyll. Ond nid an- mherthynasol a fyddai dangos nwydau a thneddgarwch Jeffreys yn hyn, yn gystal a phob achos arall a ddygid o'i flaen. Haerai Baxter yn ei amddiffyniad, ' ei fod ef wedi bod mor gymmedrol tuag atEglwys Loegr, a chwedi dweyd mor barchus ?m yrEsgob- ion, fel ag yr oedd wedi tynu gwg a sofi llaweroedd o'r Ymneillduwyr ar y cyfrif hwnw.' Jeffreys, gan ymddîosg o swydd barnwr, i droi yn dyst, a sicrhai yn haer- llag, 'fod Baxter yn elyn i'r enw a'r peth, i swydd a phersonau Esgotton ; a cherydd- odd yullymgynghorwyrBaxter, ysgatfydd am amddiffyn ei achos mor dda. Yna, gan droi i gyfarch Baxter, eb efe, ' Richard, yr wyt ti yn hên ddrèl, yn hên gnâf, yr wyt ti wedi ysgrifenu gryn lwyth mèn o lyfrau, a phob un o honynt, gallaf yn hyf ddywed- yd, cyn llawned o derfysg, 'íe o uchelfrad, ag ydyw ŵy o ymborth. Pe cawsit ddeugaìn mlynedd yn ol dy fflangelhi aüauo'thgrefft