Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Rhif. 217.] RHAGFYR, 1839. [Cyf. XVIIL COFIANT JAMES HAY BEATTIE, A. C. 3V1AB yr enwog Dr. James Beattie o Aber- deen ydoedd gwrthddrych y cofiant hwn, ac yr oedd yn wr ieuanc nodedig o ran ei ddiwydrwydd, ei ddysg, aM alluoedd medd- yliol. Ganwyd ef Tachwedd 6, 1768; dygwyd ef i fyny mewn ysgol awdurol, ac wedi liyny yn Mhrifysgol Aberdeen, a chymmaint oedd ei gynnydd yn ngwahanol ganghenau dysg, fel yderbyniodd ei raddau A.C. cyn cyraedd ei 19 tulwydd oed. Ac o herwydd ei barch aì'ì gymmeriad fel ysgol- aig, gwnaed caisgan yBrifysgol i'rSenedd ar iddo gael ei sefydlu i fod yn gynorthwy- wr i'w dad, yr hwn oedd y pryd hwnw yn Brofcssor of Moral Philosophy #• Logic; llwyddwyd yn y cais, a bu dros ddwy flyn- edd yn cynorthwyo ei dad, er tnawr fodd- lonrwydd i bawb oedd yn perthyn i'w ddosbarth; ond pan y dysgwylid gan bawb a'i hadwaenai y buasaiefynaddurnclodwiw i'r Brifysgol, yn enw ac yn anrhydedd i'w wlad a'i genedl, torwyd ef i lawr pan yn mlagur ei ieuenctyd, yn nghanol ei degwch gwy wodd y blodeuyn ! Mawr fu gofal yr enwog Dr. Beattie er gwrteithio meddwl ei anwyl blentyn, yn enwedig er sefydlu ei feddwl yn y ffýdd oV Bod dwyfol, a gwir- ionedd y grefydd Gristionogol. Mae ei dad yn yr hanesyn canlynol yn adrodd y dull a gymmerodd er argraftu ar ei feddwl sicrwyddo fodolaclh Duw. u Pan ydoedd tua 5 neu 6 mlwydd oed, yroedd yn gallu'darllen yn lled hyrwydd, ond nidoedd y pryd yma wedi derbyn ond ychydig addysg mewn pertliynas i'w Greawdwr, a'r achos o hyny oedd am fy mod yn barnu nas gallai amgylfred y fath wybodaeth mor ieuanc, ahefyd am fy mod yn gwybod trwy brofiad fod dysgu rhes o ciriau ac atebion, holwyddoregaidd, i blant cyn y gallont ddeall eu hystyr, yn niweidiol iawn i'w galluocdd meddyliol. Tua'r amser, heb grybwyll gair wrth neb, aethym i gongl yr ardd, ac ysgrifenais ei enw mewn Uythyr- enau breisionâ'm bys yn y Uwch, ac wedi hyny taenaisychydig bridd ar yrlrâd, fel na byddai gMahaniaeth i'w weled rhwug y 4ô gongl hono o'r ardd a man arall. Yn mhen tua deng niwrnud dyma fy anwyl fachgen yn llawn syndod yn dyfod ataf, gan ddy- wedyd fod ei enw ef yn tyfu yn yr ardd^ yr oeddwn yn cymmeryd arnaf wrtho ef pan y dywedodd, niegys pe buaswn yn hollol ddiystyr o'r peth; ond cymmaint oedd ei syndod ef fel nad oedd dim aM boddlonai heb i mi ddyfod yno i'w weled; aethym gydag ef at yr enw, (a chan ymddangos o hyd yn ddiystyr o'r peth, Tr'dyben o'i brofi ef) a dywedais, Yr ydwyf yn canfod ei fod ef yma, ond nid wyf yn canfod ynddo ef ddim yn werth sylw, nid yw ond peth addamieain neu ddygwyddiad i gyd. Ar hyny troais i fyned ymaith o'r ardd ; ond cymmaint oedd ei syndod ef at y peth fel y gafaelai yn fy mraich, gan haeru wrthyf fod yn rhaid fod rhywun wedi hau yrhad yn y ddaear, fod yn anmhosibt Tr fath beth a llythyrenau ei enw ef dyfu o'r ddaear felly o ddamwain yn unig. Ar hyny gofynais iddo, a oedd ef yn barnu nasgallai y fath beth a llythyrenau eî enw ef dyfu yn yr ardd o ddamtcain neu ddyguyddiad. Dywedai yntau ei fod yn barnu nas gallai. Os felly, meddwn inau, edrychwch arnoch eich huu, ac ystyriwch eich dwylaw, eich bysedd, eich traed, a'ch holl aelodau, onid ydynthwy yn ymddang- os yn llawer niwy rheolaidd a threfnus na'r llythyrenau yn yr enw, y rhai sydd yn tyfu allan o'r pridd,ac hefydyn llawcr mwy defnyddiol i chwi' I hyn yr atebai yntau, eu bod. Wel, meddwn inaa, a ddaethoch ddim i fodolaetho ddamimin neu ddygtcydé,- iadf Naddo, uieddai yntau: nis gall hyny mor bod, y mae yn rhaid fod rhywbeth wedi fy nghreu, meddai yntau. Ond beth yw y rhyubeih hyny ? meddwn inau. Atebai yntau nas gwyddai ef. Yn awr yr oeddwn wedi cyraedd y dyben oedd genyf mewti golwg yn y cwbl, pryd y gwelais fod ei feddwl yn dysgu (er nas gallai osod ei fedd- wl allan mewn geiriau) iddo, fod yn rhaid i bob peth sydd yn bodoli gael rhyw achos o'u bodolaelh; a bod yn rhaid fod rhy w achos deallol i bol* eifaith yn yr hon y ntae