Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Rhif. 12. Cyf. I. RHAGFYR, 1841. Cyfres Newydd. COFIANT MRS. JANE PRICE, PRIOD Y PARCH. D. PRICE, PENYBONTFAWB, SWYDD DBEFALDWYN, YB HON A Fü FABW MAWETH 18, 1841. Mrs. Jane Price ydoedd ferch henaf Mr. Thomas a Jane Bynner, Tý'nycaeau, Penybontfawr. Y teu- lu hwn a adwaenir gan y rhan aralaf o Weinidogion yr Annibyn- wyr yn y Gogledd, am mai yno y lletyant fynychaf pan yr ymwelont à'r ardal hòno. Cafodd gwrth- ddrych y Cofiant hwn gyflawnder o fanteision crefyddol, a moddion addysg o'i mabandod; difyrwyd oriau boreuaf ei bywyd â chaniadau Seion; cyfarwyddwyd ei chamrau cyntaf ar ben yr iawn Iwybr, a sel- iwyd ei haddysg â gweddiau ac â dagrau. Pan gyrhaeddodd oedran pleserau ieuenctyd, gan ei bod o ysbryd bywiog a thymer siriol gyf- eillgar, ymddanghosai fel pe buasai yn benderfynol y mynasai ei rhan o bleserau gwag y byd; yr oedd cychwyn ar hyd y llwybr hwn yn an- " hawdd, dan bwys dylanwad cynghor- ion dwys ac esiamplau da; a chyn y gallodd fyned ond ychydig gamrau yn mlaen ar hyd y llithrigfa hon, cyfarfyddodd yr Arglwydd â hi trwy weinidogaeth ei air a'i Ysbryd, ac a ddywedodd wrthi, nes y teiml- odd ei chalon, "Hyd yma yr âi, a dim yn mhellach;" a than deimlad o werth enaid, a'i rhwymedigaeth i'r Arglwydd, ymunodd ag eglwys Dduw yn Mhenybontfawr, yn y flwyddyn 1826, pan yn 18 mlwydd oed. Wedi ymrestru yn myddin Iesu, cafodd gymhorth i ddal ei ffordd, ac i chwanegu cryfder, er pob deniadau hudoliaethus ar y naill law, a dirmyg gwatworus ar y Decembeb, 1841. Uaw arall. Yn y flwyddyn 1830, ymunodd mewn priodas â'r Parch. D. Price, a gellir dywedyd am dani ei bod yn ymgeledd gymhwys yn yr ystyr helaethaf o'r gair; nid yn aml y cydgyfarfyddodd mwy o gymhwysderau, mewn un ddynes, i íòd yn gymhar bywyd Gweinidog yr efengyl, nag oedd ynddi hi. Yr oedd cynhildeb a glanweithdra yn ymblethedig â'i natur. Yr oedd o ddeall cryf, a meddwl parod i ym- gynghori mewn unrhyw achos o bwys. Pan y byddai ei phriod, dan feichiau tryrmion, bron a suddo mewn digalondid, byddai hi bob amser yn golofh ddiysgog i'w ddal i fyny; ac yn ei absenoldeb, gwyddai yn dda pa fbdd i lywodraethu a threfnu ei thý ei hun. Y llythyr canlynol a ddengys ei chymeriad gan yr eglwys dros dymhor ieuenc- tyd, gyda chrefydd, yr hwn a dder- byniodd pan oedd hi a'i phriod yn bwriadu preswylio yn swydd Gaer- ynarfon. "Ysgrifenir yr ychydig linellau can- lynol i amlygu fod y ddiweddar Miss Bynner (yn bresenol Mrs. Price), er yn agos i bedair blynedd, yn aelod rheolaidd o'rEglwysGynnuIleidfaolyn Mhenybont- fawr, swydd Drefaldwyn. Y mae ei hymddj'gîadau hardd, a'i hymdrechiadau íFyddlon, wedi bod hyd yma o'r fath ag oedd yn anrhydedd i'r enw mawr sydd arnî, yn creu auwyldeb yn myuwes y frawdoliaeth tuagati: ac ni buom dan yr angenrheidrwydd gymaint ag uuwaith i ddefnyddio gwìalen cerydd tuag ati. " Yr [ydym] yn gorchymyn i chẁi [am] ein chwaer, dderbyn o honoch bi yn yr Arglwydd, megys y mae yn addas i saint, a'i chynnorthwyo hi yn mha beth byaag 4ó