Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Rhif. 18. Cyf. II. MEHEFIN, 1842. Cyfres Newydd. COPIAIT MR. JOHN ISAAC, FFESTINIOG. Ganwyd a magwyd y gwr ieuanc duwiol hwn mewn teulu digrefydd. Bychan a chloff yw cymhwysder rhieni digrefydd i fagu eu plant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd; ac y mae y cyfryw a fegir ganddynt dan anfantais gref i ymgysegru yn morçuddydd eu hoes i wasanaeth y Gwaredwr. Am fod ei r'ieni o anigylchiadau isel, ni chafodd lawer o fanteision dysgeidiaeth yn ei feb- yd; ac yr oedd yn ddyledus o'r braidd am yr oll oedd ganddo i'r Ysgol Sabbathol. Ynddi y meith- rinwyd ei feddwl mewn gwybod- aeth grefyddol am Dduw, ei sefyllfa druenus feì pechadur, ac addasrwydd trefn gras ar ei gyfer. Pan yn nghylch 22 oed ymunodd gyda'r Eglwys Gynnulleidfaol yn Bethania. Yr oedd wedi bod y pedair blynedd blaenorol yn cael ei restru gyda'r bechgyn mwyaf annuwiol a gwyllt yn y gymydog- aethj ond o hyn allan newidiodd ei feistr, ei waith, a'i gyfeillion; a chyfrifid ef mwyach gyda'r bechgyn mwyaf cyflwynedig, llafurus, a selog yn ngwaith yr Arglwydd. Yr oedd ei awydd am wybodaeth mor fawr, fel y cyfodai ei lef am dani yn mhob man, ac yr ymdrechai ei chasglu o bob lle, yn neillduol o'r Bibl: felly cyn hir aeth ei gynnydd yn eglur i bawb o'i gydnabod. HofFai yn fawr ymddyddan â hen grefyddwyr profiadol. Mynych yr adroddai am y rhyfel a deimlai yn ei feddwl â phechod, a'r hyfrydwch fyddai yn ei fwynhau wrth gym- Jüne, 1843, deithasu â'i Dduw: agwyddomam rai manau yn ei gymydogaeth oedd yn "ddaear santaidd" ganddo, Ue byddai ôl ei ddeulin yn tystio ei fynychdod yn y dirgel. Gan ei fod yn dyfod yn mlaen mor gyflym mewn dawn a gwybod- aeth, a phob arwyddion boddhaol arno ei fod yn ailenedig, meddyliodd ei gyfeillion y gallasai droi mewn cylch ehangach nag aelod cyffredin, ac annogwyd ef yn gryf gan yr eglwys i fyned i bregethu, Ar ol iddo ystyried y mater yn bwyllog a difrifol, ymddyddan llawer â'i gyf- eillion, a gwneud y peth yn fynych destun gweddi, cydsyniodd yn wyl- aidd â'u cais. Ar ol cymeryd arno y swydd bwysig hon, buan y dangosodd fedrusrwydd anghyft- redin. Byddai ei bregethau yn drefnus, ei ddrychfeddyliau yn fyw- iog, ei hyawdledd, fel dyn ieuanc, yn fawr, ac arogl crefydd ar yr olí a ddywedai. Yn niwedd y flwyddyn 1838, aeth i'r athrofa dan olygiad y diweddar Barch. J. Jones, Marton, Ond gan ei fod o gyfansoddiad gwanaidd, ac wedi gwanychu yn fawr o herwydd y clefyd tost a ddyoddefodd yn yr haf, nis gallodd fyned yn mlaen yn mhell gyda'i efrydiau. Wrth weled ei iechyd yn gwanhau, annogwyd ef gan ei gyf- eillion i ymadael â'r ysgol am ych- ydig er mwyn adferiad a chryfhad, Ar ol ei ddyfodiad adref bu dan law meddyg cywrain a gofalus yn y gymydogaeth, a gwellhaodd yn bur 21