Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Rhif. 19. Cyf. II. GORPHENAF, 1842. Cyfres Newydd. MARWOLAETH THOMAS JONES, MOSTYN. Dvdd Sadwrn yr 16eg o'r mis hwn (Ebrill) syrthiodd Thomas Jones, Watergate, Mostyn, yn ysglyfaeth i angeu disyfyd. Disgynodd i'r pwll glo at ei orchwyl, ennynodd y damp, a llosgodd i'r fath ra'ddau fel y bu farw boreu y Sabbath dilynol. Ei oed oedd 36. Gadawodd fam oedranus ar ei ol, a gweddw gyda dau o blant bychain, i alaru am eu colled. Cafodd brawd ieuanc o'r enw Thomas Williams ei losgi yr un pryd, ond y mae golwg obeithiol arno ef am welliant buan. Dydd Mawrth cymerodd ei gladdedigaeth le. Ymgasglodd tyrfa o amryw gannoedd i arwyddo eu parch trwy dalu y gymwynas olaf iddo o'i hebrwng i lan y bedd. Am 3 o'r gloch yr oedd y capel yn orlawn, a phregethodd yr ysgrifenydd i gyn- nulleidfa wylofus. Yn niwedd y bregeth gwnaed y nodiadau canlyn- ol ar nodwedd ein hanwyl frawd: Yr oedd yn Gristion er pan yn ieuanc. Cychwynodd yr yrfa yn foreu. Yr oedd fel Timothëus yn gwybod yr ysgrythyr lân er yn ieuanc. Yr oedd yn Gristion llariaidd. Tymher serchog oedd ganddo. Yr oedd addfwynder yn ei wedd, ei lais, ei ysbryd, a'i ymddyddanion. "Gwyn eu byd y rhai addfwyn." Yr oedd yn Gristion didrwst. Un dystaw ydoedd. Nid oedd ganddo drwst i godi ei hun i fyny. Nid aur yw pob peth sydd yn dys- gleirio. Llawer un yn codi ei hun i sylw, gellid meddwl mai aur ydyw Ji/ly 1842. ar yr olwg gyntaf; ond erbyn profì ei bwysau gwelir mai golchiad aur sydd arno yn unig. Y mae yn brin yn y glorian. Aur pur ydoedd ein brawd—yr oedd pwysau yn pertlwn iddo. Nid yn unig yr oedd yn ddidrwst o ran ceisio codi ei hun i fyny, ond hefyd yr oedd yn ddi- drwst o ran ymgais i dynu eraill i lawr. Mynych y dygwydda mai y rhai mwyaf awyddus i ddringo i íyny, ydyw y rhai blaenaf i amcanu tynu eraill i lawr. Nid oedd ein cyfaill yn euog o'r naill na'r llall. Nid oedd yn enllibio ei gymydog yn ddirgel. Nid oedd yn absenu â'i dafod. Cristion dystaw ydoedd. Cristion ffyddìanm ydoedd. Bu yn ftyddlawn fel aelod eglwysig. Yr oedd bob amser yn ei le. Bu yn ffyddlawn fel dirwestwr. Ni bu yn euog o unrhyw ymddygiad ag y gall meddwyn wneud cochl o hono i lechu yn ei gysgod. Yr oedd gmaâtadrii'ydd yn perthyn i'w ys- bryd a'i rodiad. Ni welid ef byth mewn hwyliau uchèl a ch}rffröus, ac ni welid ef ychwaith un amser yn llwfr ac ymollyngol ei ysbryd. Yr oedd yn Grütion sobr a siriol. Un peth ydyw bod yn sobr, peth arall ydyw bod yn sarug. Un peth ydyw bod yn siriol, peth arall ydyw bod yn gellweirus. Yr oedd ein brawd yn sobr, ond nid yn sarug— yn siriol, ond nid yn gellweirus. Gwn mai llwybr pur gul ydyw hwn, ond cafodd gymhorth i'w rodio. Yr oedd yn Gristion cynnyddol. Yr oedd ysbryd darllen a chwilio 25