Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: •tdà'b hwn t mae "tb annibtnwb" wedi ei uno. MRS. ROWLAND EVANS, MORBEN, GER MACHTNLLETH. Yr hon a fu farw Ionawr 19eÿ, 1855, yn 51 mlwydd oed. "Gobaith a oeder a wanha y galon." Philosophi pethau amser yw hyn- yna. Aeth y plentyn i wlad bell, gan adael addewid i'w fam y dy- chwelai yn fuan; ond gan iddo aros yn hir, ac na adnewyddodd yr addewid â llythyrau serch, gwanhaodd calon y fam, a dywedodd, "Fy machgen nid yw fyw." Philosophi crefydd yw, "Dysgwyliaf holl ddyddiau fy milwr- iaeth, hyd oni ddelo fy nghyfnewidiad." Ni fwrw y saint ymaith eu hyder, yr hwn sydd iddo fawr wobr. "Cariad byth ni ehwymp ymaith." Dyma philosophi pethau crefydd: ni dderfydd eu bodolaeth, ni phalla eu gwerth, ac ni phaid eu dylanwad. Mae Mrs. Evans wedi marw er s llawer o flynyddoedd, a'r hyn oedd farwol wedi ei guddio yn nhir anghof er's amser maith. Ond er hyny, ui ystyriwn ein ha^nabyddiaeth o honi na'n parch iddi ddim yn llai; ac fel yr ydym yn nesu yn mlaen ar ffordd yr holl ddaear, yr ydym yn gweled y rhai a'n blaen- asant yn eglurach, ac yn teimlo yn anwylach tuag atynt. Er ein bod wedi colli eu gwasanaeth ar y ddaear, ac mai ofer yw i ni ddysgwyl eu cyfarfod mwy yn y byd; etto, teimlwn ein perthynas â hwy yr un, a llawenhawn yn y gobaith o'u hail gyfarfod yn y nef, lle y cawn gymdeithasu yn dded- wydd, ac adrodd yn felus, ìlUS, "Am y tro y ce's (j mywyd, Am yr oedfa y gwnaed ô'n rhydd." Os yw cofíantau rhai wedi eu gadael yn rhy hir heb eu rhoddi o flaen y cyhoedd, mae cofiantau eraill wedi eu rhoddi yn rhy fuan, ac felly wedi eu cyfansoddi i gyfarfod teimladau ychydig o berthynasau agos, ac nid er adeiladaeth a budd cyffredinol. Gwyddom fod llawer o bethau dyddorol wedi eu colli wrth fod yn rhy ymarhous; gwyddom hefyd fod llawer o bethau gwael a difudd wedi cael eu cadw wrth fod yn rhy frysiog. Nis gallwn edrych ar lawer cofiant yn ddim amgen na math o foesgarwch cyd- ymdeimladol â pherthynasau gwrthddrych y cofiant. Dymunem weledpob cofiant yn llawn o deimlad tyner, o addysg fuddiol, acyn ddarllenadwy gan yr estron yn gystal a chan y "cyfnesaí." Nid prŵate property yw bywyd a dylanwad dyn, ond eiddo y cyffredin, oblegid nid oes neb yn byw iddo ei hun. Felly hefyd dylai coffadwriáeth dyn gael ei gyflëu yn y cyfryw fodd ag y gwasanaetho fwyaf i'r cyffredin ac i'r oesau a ddaw. Mae ol-ddylan- wad Hawer wedi effeithio er dwyn oddiamgylch bethau mwy na llafur penaf eu bywyd—eu coffadwriaeth yn aros fel surdoes, ac yn lefeinio hoíl gylch cymdeithas am oesau a chenedlaethau lawer, hyd nes arall-nodweddu y byd Awst, 18«5. x