Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DYSGEDYBD CREFYDDOI., &,c. Rhif. 114.] MEHEFIN, 1831. |Cyf. X. COPÎANT V DYWEDDAR MR. W. WILHAMS, LLANERCHYMEDD, MON. Ganwyd W. Wüliams yn Llan- erchyraedd, Tach. 16, 1802, o Rieni crefyddol, sef David ac Elinor Will- iams, y rhai ydynt yn aelodau rheol- aidd yn barhaus o gymdeithas y Tref- nyddion Calfinaidd; a thrwy iddo gael niantesion crefyddol yn forea, gog- wyddwyd ei feddwl, eryn ieuanc, at grefydd ; a dangosodd awyddfryd am ymuno mewn cymdeithas a sefydlwyd i egwyddori plant, (neu fel y dywedir yn gyffredin "Seiat plant") a bu yn aelod o honi ain rai blynyddau; eithr fel y daelh yn mlaen raewn gwybod- aeth, teimlodd awydd i ymuno á'r gymdeithas y perthynai ei ricni iddi, ac fe.lly y gwnaeth; a bu yn aelod rheolaidd o honi am gryn amser. Er cymaint oedd ei anfantais gyda'i gelfyddyd, yr ydoedd yn awyddus iawn amchwilio am wybodaeth; darllenai lawer ; ac fel y digwyddodd iddo fod yn wr ieuanc ymofyngar, ac o ysbryd rhydd, heb ei lyiTetheirio gan ragfarn à dallbleidiaeth, feJ y mae llawer a fynant gael eu cyfenwi yn Santolion yr oes, deuodd o hyd i lyfrau nad oeddynt yn cyd-daro yn hollol â phob peth yn ngolygiadau y Corfi ; ac wcdi i ryw rai, a gyienwid yn frodyr iddo, yrhaîa feddent fwy o haer- llugrwydd (impudencej nag o syowyr, a mwy o ryfyg nag o ras, ddeall ei fod cf yndechreu barnu drosto eì hnn, ac nad oedd yn chwenych cymeryd ei 'lywys yn hwy gan yr anwybodus, cynhyrfasant a ffyrnigasant yn ei erbyn, a chyfrifäsant ef yn un ystyfnig ac anmhlygedig ; ac un o Athrawon y Corff a fygythiodd ei fab, mcwn MEHEFIN, 1831.j modd arswydus, os beiddiai gymeryd William druan yn gyfaiil yn hwy ; yr oedd y bechgyn o'r blaen yn gyfeillion hofT; ac er nad oeddynt, cfallai, yn gallu cyd weled yn mhob peth, meddent ddigon o synwyr i beidio ymladd llawer â'u gilydd ; ond pa fodd bynag rhaid oedd datod y cylymau cyfeillachol gan nad pa mor agos oeddynt, neuoddefdan arllwys- iad y wac a gyhoeddwyd,ac felly o fesur ychydigi ychydig, drwy ei fod yn dyfod i garu y "Peth gwrthun hwnw," sef, Traethawd rhagorol y Dr. Williams, yn fwy yn baraus, ac fod yr awyr Ile'r anadlai o'r blaen yn duo a fíyrnigo, meddyliodd nad oedd modd iddo fyw yn nghanol mellt a tharanau a mwg rhagfarn, a phenderfynodd gynyg ei hunyn aelod o Eglwysyr Annibynwyr, yn Llanerchymedd, Ilc y gobeithiai y cawsai anadhi raewn awyr iach a diberygl, a chafodd dderbyniadcroes- awus: ac wedi cael prawf peliach o'i fnchedd ddychlynaidd, a'i wyobodaeth, a'i brofiad yn mhethau yr Arglwydd, ni fuwyd yn hir heb ei annog i ym- aflyd yn y gwaith o bregethu ; ac o'r pryd hwnw hyd ei farwolaeth, ni chawsant un achos edifarhau. Yn mhen ychydig wedi iddo ddech- rcn pregethu, gadawodd ei gelfyddyd, ac aeth <!an ofal y Parch. W. GritFith, Cacrgybi, i dderbyn cyfarwyddiadau parotoáwl cyn myned i Athrofa Blacìcburn ; ac wele yn canlyn gyf- sgrif olythyr a dderbyniodd ysgrifen- ydd y Ilínellau hyn oddiwrth y brawd hwnw, yn yr hwn y dangosir, yn lled fanwl, ragoriaethai' ein cyfaill treng- edig:— x