Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: otda'r hwn t màe "tr annibtnwr" wedi ki uno. GWIRIONEDD, GWYBODAETH, A RHYDDID. " A chwi a gewoh wybod y gwirìonedd, a'r gwirionedd a'ch rhyddha chwi," Ioan viii. 32. Crybwylla y testun am dri pheth o'r mwyaf eu pwys ac o'r mwyaf eu gwerth, sef gwirionedd, gwybodaeth, a rhyddid. Y mae pob un o'r rhai hyn yn werthfawr ynddo ei hun, ond yn ddyblyg werthfawr yn gysylltiedig â'u gilydd. Beth sydd mor werthfawr a gwirionedd? Beth sydd mor bwysig a gwybodaeth? Beth sydd mor a hyfryd a rhyddid? Ond er hyny, nid yw gwirionedd o nemawr werth heb ei wybod; nid yw gwybodaeth o nemawr werth heb wirionedd; ac nid yw gwybodaeth a gwirionedd o nemawr werth os na bydd rhyddid i'w gweithio allan mewn ymarferiad. I. Gwirionedd. Nid rhyw wirionedd, ond y gwirionedd: y mwyaf, y penaf, y puraf, y pwysicaf o bob gwirionedd. Gwirionedd ydyw Duw. "Myfì sydd Dduw ac nid neb arall." Efe ydyw "yr unig wir Dduw." Nid rhith, na gau, na delw, nac eulun; ond Duw mewn gwirionedd, a'r unig Dduw gwirioneddol. Gwirionedd ydyw Iesu Grist, Mab Duw, a Gwaredwr dynion. Efe ydyw y gwir fara, y gwir oleuni, a'r wir winwydden. Efe ydyw "y ífordd, y gwir- ionedd, a'r bywyd," neu fíbrdd wirioneddol y bywyd. Nid gau ífordd ydyw, ac nid ffordd gysgodol ychwaith, eithr y wir ffordd. Y mae ei gnawd ef yn fwyd "yn wir;" ac y mae ei waed ef yn ddiod "yn wir." Nid rhith, na ffug, nac arlun o fwydj ond bwyd sylweddol, digonol, a gwirioneddol. Efe yw sylwedd yr holl seremonîau, a gwirionedd yr holl gysgodau. Gwirionedd ydyw y gair dwyfol. " Gwir yw y gair." Y mae yn hynod ac yn rhyfedd; ond nid mwy hynod a rhyfedd na gwir. Haedda "bob der- byniad," pob math o dderbyniad; y derbyniad mwyaf siriol, gostyngedig, dioed, a diolchgar. " Y gyfraith a roddwyd trwy Moses," cysgod oedd hòno o bethau daionus i ddyfod; "ond y gras a'r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist." Y mae yr efengyl oll yn "eiriau gwirionedd a sobrwydd." Gwirionedd ydyw crefydd bur. Y mae ei pherchenog yn "Israeliadyn wir." Y mae Duw yn gweled ac yn caru "gwirionedd oddifewn." Bhaid addoli y Tad mewn ysbryd ac mewn "gwirionedd." Y mae y rhai digrefydd yn ddynion llygredig eu meddwl, " heb fod y gwirionedd ganddynt." " Os arhoswch chwi yn fy ngair i, dysgyblion i mi ydych yn wir," (adn. 31); hyny yw, mewn gwirionedd, ac nid mewn enw ac ymddangosiad yn unig. Os arhoswch yn y gwir, erys y gwir ynoch chwithau, a chwi a fyddwch yn Wir ddysgyblion. II. Gwybodaeth. " Gwybod y gwirionedd." Nid oes yr un wybodaeth arall etyb y dyben o ryddhau enaid allan o gaethiwed llygredigaeth. Nid gwybod deddfau anian, na gwybod egwyddorion athroniaeth, na gwybod Mai, 1866. n