Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD «teu'r hwn t mae "tr ansibtnwr" wedi ei uno. YR YMGNAWDOLIAD. Athrawiaeth sylfaenol yn nhrefn yr iechydwriaetli yw yr ymgnawdoliad. Nid y w yr Iawn ei hun ond rhan, neu un o amcanion y ffaith holl-gynnwys- fawr, ddyfod "Duw yn y cnawd." Cynnwysir yr Iawn yn yr ymgnaAvdol- iad, fel y cynnwysir yr haul yn y ffurfaten. Cyfarfydda yr lawn â'r gofynion cyfreithiol oedd gan drefn iechydwriaeth i'w hateb yn llywodraeth y Bôd anfeidrol—gwna "gadw dyn" yn beth cyfreithlon. Dengys y gair Iaioa mai hyn yw natur a gwasanaeth y peth y mae yn enw arno: " A hwy wedi eu cyfîawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy y prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu: yr hwn a osododd Duw yn Iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i cldangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o"r blaen, trwy ddyoddefgarwch Duw; i ddangos ei gyfìawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu." Symuda yr Iawn y rhwystr cyfreithiol oedd ar ffordd Duw a dyn i ddyfod i gyminod â'u gilydd, gan "wmeuthur heddwch trwy waed ei groes ef." Ond yr oedd yna rwystr arall heblaw un cyfreithiol i gymdeithas a chymundeb dedwydd rhwng dyn a Duw—rhwystr naturiol. Fedr dyn ddim cymdeithasu â Duw yn ddigyfrwng. Nid all angel ychwaith. Ni welodd nel) Dduw erioed. Mae yr Ysbryd anfeidrol, holl- bresenol, hollwybodol, preswylfod pob bodolaeth, yn un nad all creadur ganfod, na chlywed, na theimlo ei sylwedd anfeidrol bur ac anamgyfìredadwy. Rhaid i'r creadur, rhaid i'r meidrol gael amlygiad o Dduw mewn ffurf feidrol cya y gall gymdeithasu âg ef. Nid yw i greadur geisio cael gafael ar Dduw, heblaw mewn amlygiad o hono mewn ffurf feidrol, ond fel ymbalfalu am graig neu bared yn nglianol gwagle diderfyn. Nid yw ond ceisio cofleidio yr awyr, a phan ddelo a'i goflaid yn ol i'w fynwes ni bydd ganddo ddim. Wel, onid ydyw y greadigaeth yn amlygiad meidrol o'r Anfeidiol] Ydyw y mae. Onid yw lili y maes yn amlygiad meidrol o ofal yr Anfeidrol, a'i hotì'- der o'r prydferth? Ydyw. Onid yw y meusydd ffrwythlawn yn amlygiad mewn ffurf feidrol o ddaioni yr Anfeidrol tuag at ddynion? Onid yw y üreigiau ysgythrog a'r mynyddoedd cribog yna yn amlygiadau mewn ffurf feidrol o dragwyddol allu a Duwdod yr Anfeidrol'? Ydynt y maent. Os íelly, oni all dyn gael Duw yn y pethau yna, a chymdeithasu âg ef ynddynt foddlonrwydd1? Os oes, ac y mae hefyd, fel y dywed y bardd Seisnig, 'lyfrau mewn cèryg, a phregethau mewn ffrydiau rhedegog," oni all dyn ;ael pob gwybodaeth angenrheidiol iddo am Dduw yn y llyfrau a'r pregethau ;eirwir hyn] Na fedr. Ni all gael gwybod yn eu traethiadau cyfrolog hwy nd y peth nesaf i ddim am y pethau mwyaf angenrheidiol iddo fel creadur nfarwol. Pan elo atynt hwy â phynciau penaf bodolaeth, a gofyn, Betli GORPHENAF, J866. T