Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: GYDA'H HWN Y MAE "Ylt ANNIBYNWn" WEDI EI UNO. PECHOD GWEEIDDIOL, Yn y misoedd a aethant heibio, dymunodd Pwyllgor Athrofa Aberhonddu ar y brodyr J. Griffiths, St. Florence, ac R. Thomas, Bangor, i ymgymeryd â'r gorchwyl, eleni, o arholi y myfyrwyr mewn duwinyddiaeth. Yn y Gymraeg yr oedd yr arholiad i gael ei wneuthur. Yr oedd hyny, debygid, yn eithaf priodol; oblegid dysgwylir mai yn mysg y Cytnry y bydd y rhan fwyaf o'r gwŷr ieuainc yn llafurio pan ymsefydlont yn y weinidogaeth. Pwnc yr arholiad oedd, "Pechod Gwreiddiol," neu athrawiaeth y cwymp, yn ei gwahanol gysylltiadau. Pwnc pur dywyll a dyrys, yn rhai o'i fanyl- ion, yw hwn, fel yr addefa pawb; ond pwnc, er hyny, ag y mae o'r pwya mwyaf i fyfyriwr mewn duwinyddiaeth fod yn gydnabyddus ag ef. Effeithia golygiadau dyn arno, ar ei olygiadau ar luaws o faterion eiuill, yn nghyfun- draeth y datguddiad dwyfol. Parotodd yr arholwyr restr o ofynion i'r myfyrwyr i'w hateb mewn ysgrifen, a phob un i'w hateb drosto ei hun, mewu tair awr o amser, ac heb gymhorth unrhyw lyfr, oddieithr y Beibl a Geiriadur. Dyma y gofynion:— 1. Pa beth a olygir wrth "Bechod Gwreiddiol?" Rhoddwch ddarnodiad o hono yn eì ystyr eang, ac yn ei ystyr gyfyng hefyd. 2. Beth a feddylir pan ddywedir, fod Adda wedi ei grëu ar "ddelw Duw?" 3. Os perffeithrwydd moesol ei holl natur ysbrydol a olygir wrth " ddelw Duw," pa un ai naturiol a hanfodol iddo,-fel creadur, neu oruwchnaturiol ac ychwanegol at yr oll oedd yn ei wneuthur yn weithredydd moesol, dan ddeddf i Dduw, oedd y perffeith- rwydd hwnw, yn ol Dr. Cunningham? Beth yw golygiad Dr Payne ar y mater hwn? 4. Pa brawf sydd fod Adda yn cynnrychioli ei hiliogaeth yn ngoruchwyliaeth Eden, a bod ei holl had ar eu prawf ynddo ef ? 5. Beth a olygir wrth "gyfriflad o bechod cyntaf Adda i'w hiliogaeth? Ac, a ydyw y cyfrifiad hwnw yn gyfiawn tuag atynt hwy? Os ydyw, pa fodd y mae felly? 6. Yn mha bethau y mae y niwaid a gafodd dynolryw, trwy y cwymp, yn gynnwys- edig yn benaf ? Enwch rai o honynt. 7. A oes rhyw wir ddaioni moesol yn nghalonau dynion annuwiol, ac yn y gweith- redoedd hyny o'r eiddynt a ganmolir yn gyffredin gan ddynion? Os nad oes, paham? 8. Darluniwch y berthynas sydd rhwng yr athrawiaeth o "Bechod Gwreiddiol" ac athrawiaeth yr Ewyllys. Rhoddwch y golygiadau arddansoddawl a duwinyddol o'r Ewyllys; a dysgrifiwch yr Ewyllys yn ei gweithrediadau cyn ac wedi y cwymp. 9. A ydyẃ ymlyniad perfEaith y galon a'r ewyllys wrth unrhyw beth, da neu ddrwg, yn dinystrio gwir ryddid dyn, fel creadur cyfrifol? Rhoddwch ddarnodiad byr, os gellwch, o ryddid—pa beth ydyw? 10. Pa un ai gweithredol, neu oddefol, neu bob un o'r ddau, yw yr ewyllys yn yr-ad- enedigaeth? Rhoddwch eich rhesymau dros eich golygiad. Awst, 1866. t