Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: GYDa'R HWS Y MAE " YR ANNIBYNWR" WEDI EI UNO. Y PARCH, ISAAC HAERIS, [Traddodwyd y sylwadau canlynol i gynnulleidfa dra Uuosog a galarus yn y Wyddgrug, ar achlysur marwolaeth y diweddar Barcli. I. Harris.— W. Rees ] " Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn: canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd," Salm xxxvii. 37. Y mae tôn y Salm hon yn di^a gwahanol i'r rhan fwyaf o'r Salmau; ni chlywir llais cwyn na llais cân—sain mawl na swn gweddi ynddi. Addysg ac athrawiaeth ydyw drwyddi oll. Gosodir dau gyflwr—dau nod- weddiad ar gyfer eu gilydd, a delir hwynt megys wyneb yn wyneb o'r dechreu i'r diwedd;—y duwiol a'r annuwiol—y cyfiawn a'r drygionus—yr uniawn a'r anwir. Dywedir llawer yma am y naiJl a'r llall, er dártgos y mawr wahaniaeth sydd rhyngddynt yn eu cyflyrau, eu bucheddau, a'u diwedd. Y mae y gwahaniaeth a'r rhagoriaeth rhyngddynt yn fawr yn eu perthynas â Duw, yn eu sefyllfa ysbrydol ger bron Duw, yn eu bywyd a'u hymarferion cyhoeddus, ac yn niwedd gyrfa eu bywyd; yn eu mynediad trwy'r byd, ac yn eu mynediad o'r byd. Casgliad oddiwrth athrawiaeth y bregeth ar y mater yna ydyw y testun; nodir un o'r ddau wrthddrych y llefarwyd am danynt o'r blaen yn neillduol, gelwir sylw neillduol ato, a rhoddir rheswm neillduol am hyny; ac ychwan- egir gair trwm am y llall—" Diwedd yr annuwiolion a dòrir ymaith." 1. Y cymeriad a arganmolir. " Y pei-ffaith, yruniawn, ygwrhwnw;" yr un ydyw. Nid wrth ei enw nac wrth ei sefj llfa yn y byd y dynodir ef, ond wrth ei garacter, nodwedd ei gyflwr, ei fywyd, a'i fuchedd. Rhoddir dysgrifiad deublyg o hono—yperffaith—yr uniawn—ei egwyddorion a'i ymar- ferion. Y perýaith, dyna y dyn oddimewn; yr uniawn, dyna ei fywyd, ei rodiad cyhoeddus. Y perffaith, dyna y pren; yr uniawn, dyna y ffrwyth. "Y perffaith." Nid y digoll, difai, yn yr ystyr yr oedd y dyn cyntaf yn berffaith, neu fel y mae ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd yn y nefoedd; ni welodd y ddaear yr un felly ar ol y cwymp, ond "Y Cywir hwnw—^y diddrwg, y dihalog, y didoledig oddiwrth bechaduriaid; yr hwn ni wnaeth ac nid adnabu bechod." Nid oes un cyfiawn perffaith felly i'w gael, nac oes un; anmlierffaith ar y goreu yw y goreu o feibion Adda. Ond y mae i'r gair perffaith a pherffeithrwydd ystyr arall yn aml yn y Beibl— cywiredd, didwylledd, symledd. Dyna y dyn perffaith yn yr ysgrythyrau yn fynych, y dyn cywir, gonest, didwyll, a syml. Un felly oedd Noah, Daniel, Job, ie, holl saint y Beibl; a dyma y gwr hwnw yn ein testun. Y perffeithrwydd, y cywirdeb, a'r symledd calon hwn yw y peth penaf oll mewn crefydd, y peth mwyaf a gwerthfawrocaf oll yn ngolwg Duw. Ni all gwir dduwioldeb hanfodi heb y perffeithrwydd calon hwn, elfen hanfodol Medi, 1866. 2 b