Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: gtda'b hwn t mae "tr annibtnwb" wedi bi uno. DUWDOD CRIST. Mae pum dosbarth o adnodau yn y Beibl yn profi ac yn codi o'r athraw- iaeth o Dduwdod Crist:— 1. Yr adnodau yn y rhai y gelwir ef yn bendant yn Dduw. Y rhai dilynol a'r cyffelyb—" Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Ac a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roes i ni feddwl fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir. Ac yr ydym yn y Cywir hwnw, sef yn ei Fab ef Iesu Grist. Hwn yw y gwir Dduw a*r bywyd tragwyddol. Eiddo y rhai yw y tadau, ac o'r rhai yr hanodd Crist yn ol y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen. Ac yn ddiddadl mawr yw dirgelwch duwioldeb; Duw a ymddang- osodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Ysbryd, a welwyd gan angylion, a bregethwyd i'r cenedloedd, a gredwyd iddo yn y byd, a gymerwyd i fyny mewn gogoniant." 2. Y dosbarth hyny o adnodau sydd yn priodoli perffeithiau dwyfol iddo. Hollwybodaeth—"Ac nad oedd raid iddo dystiolaethu o neb iddo am ddyn: o herwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dyn. Canys yr Iesu a wyddai o r dechreuad pwy oedd y rhai nid oedd yn credu, a phwy oedd yr hwn a'i bradychai ef " Hollbresenoldeb—" Ac ni esgynodd neb i'r nef, oddi- eithr yr hwn a ddisgynodd o'r nef, sef Mab y dyn yr hwn sydd yn y nef." Hollalluawgrwydd— " Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd; o'r lle hefyd yr ydym yn dysgwyl yr Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist, yr hwn a gyfnewidia ein corff gwael ni, fel y gwneler ef yr un ffurf â'i gorff gogoneddus ef, yn ol y nerthol weithi-ediad, trwy yr hwn y dichon efe, ie, ddarostwng pob peth iddo ei hun." Annechreuoldeb—"Hwn oedd yn j dechreuad gyda Duw. Iesu Grist, ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd." 3. Adnodau yn priodoli yr un gweithrediadau anfeidrol i'r Arglwydd Iesu Grist ag i Dduw "Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a'r-a wnaethpwyd. Canys trwyddo ef y crëwyd pob dim a'r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddian- nau; pob dim a grëwyd trwyddo ef ac erddo ef. Ac'y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll." 4. Yr adnodau hyny ag sydd yn cysylltu ac yn cyferbynu yr Arglwydd Iesu a'r Tad â'u gilydd, ac yn eu gosod ar dir cyfartal mewn gweithrediadau, a gallu, ac awdurdod, a theilyngdod. " Yr hwn, ac eíè yn ffurf Duw, ni Chwefror, 1867. d