Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: GTDA'r HWN T MAE " TE ANNIBYNWB" WEDI EI UNO. OFERGOELION CYMRU, Y taie ffynnonell o'r rhai y tardda ein holl wybodaeth, ydyw profiad, casgl- iad, a thystiolaeth; ac i'r oíaf yr ydyin yn ddyledus yn benaf. Mae profiad yn dwyn gwybodaeth: " Dyddiau a draethant, a blynyddoedd a ddysganb wybodaeth." Ac y mae rhy w bethau nad oes ond profiad o honynt a'u dysga i ni; ac y mae y wybodaeth geir drwy brofiad yn eglur, boddhaol, ac ymar- ferol. Ac er cymaint ymffrost ac uchelfrydedd yr ieuanc yn fynych; etto, mewn llawer o bethau, "yr hen a wyr, a'r ieuanc adybia." Dychymygol gan y naill ydyw yr hyn sydd yn sylweddol a phrofiadol gan y llall. Yr ydym wedi cyrhaedd gwybodaeth am ryw bethau oddiar gasgliad. Trwy gymharu y naill beth â'r llall, a chyferbynu pethau â'u gilydd, yr ydym yn tynu casgliad fel hyn neu fel arall. Mewn athroniaeth a rhesymeg, y mae llawer iawn o wirioneddau yn cael eu derbyn oddiar gasgliad; ond y mae y rhagosodiadau i'w profi neu eu caniatâu, cyn y bydd giym yn y casgl- iad. Yr oedd Columbus yn argyhoeddedig fod cyfandir eang yr ochr arall i'r Werydd, nid am ei fod erioed wedi ei weled, na gweled neb wedi bod yno; ond yr oedd yn casglu oddiar ddullwedd y ddaear, ac ymdreigliad y môr, fod yn rnaid fod gwlad fawr yn y Gorllewin. Mae genym ychydig wybodaeth ennillwyd genym trwy brofiad a chasgliad; ond pe gadawsid ni i ymddibynu ar hyny, ni buasai cylch ein gwybodaeth ond cyfyng iawn. Mae cyfanswm y wybodaeth sydd genym ni am bob peth braidd, wedi dyfod i ni trwy gredu tystiolaeth eraill. Am sefyllfa gwledydd, poblogaeth dinasoedd, uchder mynyddoedd, a mawredd afonydd y byd, nid oes genym ond tystiolaeth eraill i bwyso arni. Yn llysoedd barn ein gwlad, mae y cwbl yn troi ar eglurdeb a chysondeby dystiolaeth. Gofynodcfgwas i gyfreithiwr i'w feistr, "Pa beth yw y prif beth mewn cyfraith, meistH" "O, ddyweda' i ddim, onide mi fyddi di yn gystal cyfreithiwr a minnau." "Na, yn wir, meistr, dywedwch; os gwnewch chwi, mi dalaf am eich swper heno." "Wel, y prif beth mewn cyfraith ydyw tystiolaeth—cael tyst i brofi y cwyn." Y noson hòno ddaeth, ac meddai y meistr wrth y gwas, "Tydi sydd i dalu am swper heno, yn ol y cytundeb heddyw." "Pa le mae eich tyst chwi, meistr?" ebe y gwas. Ar dystiolaeth eraill yr ydym yn pwyso bron am bob gwybod- aeth. Ar y dechreu, ar hyn yr ymddibynir yn gwbl. Mae y plentyn yn dueddol i gredu pob peth a glyw—nid yw wedi cael blynyddoedd i gyrhaedd proíîad, ac nid oes ganddo ddealltwriaeth i gymharu a barnu—nid oes ganddo ond yn unig credu tystiolaeth eraill, ac y mae yn credu pobpeth * glyw. Oddiar anwybodaeth o dwyll a chelwydd y byd, y mae yn bur Mehefin, 1867. Q