Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: «YDA'll HWN y MAE " TR ANNIBYNWH " WEDI EI UNO. ABERTH MOLIANT, "Iíyfryd yw, îe, gwecldus yw mawl." Y mae rliai pethau yn liyfryd heb íod yn weddus, a phethau eraill yn weddus nas gellir eu cyfrif yn hyfryd. Ond y mae moliant yn un o'r pethau gweddus sydd yn dwyn mwynhad gyda'r cyflawniad o hono. "Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti â'm henaid yr hwn a waredaist." Rhaid i'r enaid gael cymhorth y gwef- usau i foliannu, ond nis gall gwasanaeth y gwefusau fod yn gymeradwy os na fydd yr enaid ynddo. Lle y byddo y galon yn ymdywallt mewn teiml- adau moliannus drwy y gwefusau, y mae yn dwyn mwynhad gwirioneddol. Dywed Mathew Henry nad oes un ddyledswydd grefyddol yn talu yn well am ei chyflawni na moli yr Arglwydd. Yn wir, dyma y gwasanaeth uchaf a fedd dyn i'w gynnyg i Dduw; ac nis gall yr Eglwys Gristionogol fod mewn sefyllfa iaeh tra byddo gwres-fesurydd ei moliant yn isel. Y mae dylanwad gan gerddoriaeth ar natur dyn; yn wir, ni a anturiwn ychwanegu, ar natur yr anifail direswm. Y mae ymarferiad â pheroriaeth yn tyneru y teimlad, yn nawseiddio y tymherau, fel mai yn anfynych y gwelir neb o ddysgyblion y gân yn cyflawni rhyw ysgelerwaith cyhoeddus. Anfynych y gwelir y llofrudd mewn dyn a fu o dan ddylanwad peroriaeth. Os yw canu ar wahan oddiwrth foliant yn efFeithio mor ddymunol, beth na ellir ddysgwyl oddiwrth aberthu moliant i Dduw ] Yr ydym yn tybied fod pob dyn wedi cael gallu i foliannu yr Arglwydd. Yn ofer y dadleua dyn ddiífyg ei duedd at beroriaeth fel rheswm dros esgeu- luso defnyddio y gallu a roes Duw iddo. A phwy na chydnabydda fod yr Arglwydd yn teilyngu teymged oddiwrth bob gallu a roddodd i ddyn? ac y mae yn anmhosibl i ddyn gael y mwynhad sydd o fewn ei gyrhaedd tra byddo rhan mor bwysig o waith crefydd yn ddirmygedig yn ei olwg. Arn bob gorchymyn i weddio a geir yn y Beibl, cawn lawer i foliannu. Y mae Salmau Dafydd wedi eu britho â moliant i'r Arglwydd, ac â gorchymynion a gwahoddiadau i eraill ei foliannu. "Molianned yr holl bobl dydi." Y mae y geiriau hyn yn gwrthdaro syniad sydd yn rhy boblogaidd yn y byd, sef mai rhyw ddosbarth neillduol o gynnulleidfa sydd i gyflawni caniadaeth y cysegr. Edrychir ar Y cantor- ion fel math o swyddogion i gyflawni rhan arbenig o waith y cysegi'. Cyfrinr hwy yn sefyll i fyny dros eraill i offrymu aberth moliant. Y mae y syniad hwn wedi andwyo llawer cynnulleidfa. Ni wadwn fod côr detholedig a rnedrus yn gymhorth i arwain cynnulleidfa mewn moliant; ond y foment y HYtÄEF, 1967. 2 E