Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: «tda'b hwn y mae " ra annibtnwb " wbd* ki UIí<>- LLITH AE FOESOLDEB, Salm XV. Prif ddybenion barddoniaeth ydyw boddio y dychymyg, goleuo y deall, a gwellhau y galon. Boddia y dychymyg drwy ei ddwyn i gyffyrddiad â'r hyn sydd brydferth, mawreddog, a rhamantus;—goleua y deall drwy osod ger ei fron y gwirionedd;—gwellha y galon drwy ei dwyn i gydymdeimlo â'r hyn sydd dda. Gwir fod llawer o gyfansoddiadau a elwir yn farddoniaeth na feddant yr un o'r nodweddion hyn; ond barddoniaeth mewn enw, ac nid mewn gwirionedd, ydynt, a goreu po gyntaf i'r byd gael gwared o honynt. Mae y Salm hon yn enghraifft nodedig o wir farddoniaeth. Boddia y dychy- •myg drwy ei ddwyn i gymydogaeth Seion, mynydd Duw;—goleua y deall drwy esbonio iddo egwyddorion moesoldeb;—gwellha y galon drwy ei dwyn i garu yr hyn sydd bur. Mae amser cyfansoddiad y Salm hon yn ansicr, a'r amgylchiadau dan ba rai y cyfansoddwyd hi yn anhysbys. Dichon iddi gael ei chyfansoddi gan Dafydd yn fuan wedi dychweliad arch y cyfammod o dŷ Obed-edom i'r tabernacl a barotoisid i'w derbyn. Dychymygwn weled y Salmydd yn edrych drwy ffenestr ei balas ryw brydnawngwaith tawel yn yr haf. Y gwrth- ddrychau cyntaf a gyfarfyddant ei olygon ydyw mynydd Seion, a thabernacl yr Arglwydd yn addurno ei gopa. Mae yr haul wrth fachludo yn taflu ei belydron diweddaf i brydferthu yr olygfa. Yn araf, araf, diflana'r goleuni; ymguddia'r mynyddoedd dan leni'r tywyllwch; a buan y teyrnasa dystaw- rwydd, tawelwch, a thrymder marwolaeth. Ond y mae meddwl y Salmydd yn ymsefydlu' yn naturiol ar fynydd Seion, man preswylfod y Goruchaf. Mae ei ddychymyg yn treiddio tufewn i'r tabernacl lle y gorphwysa arch Duw. Yno y gwel y presenoldeb dwyfol yn llewyrchu rhwng y cerubiaid, heb fod dydd na nos yn effeithio unrhyw gyfnewidiad arno. Mae y syniad yn ei lanw â syndod, a gofyna gyda gwylder, "Arglwydd, pwy a drig yn dy babellî pwy a breswylia yn mynydd dy santeiddrwyddF Mae y fath gysegredigrwydd ofnadwy yn perthyn i'r lle, nes yw y Salmydd yn ammheu bron a oes neb dynion yn gymhwys i ddynesu ato. Ond gyda ei fod yn gofyn y cwestiwn, y mae ysbrydoliaeth ddwyfol yn peri iddo ei ateb yn y geiriau nodedig a ddilynant: " Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnel gyf- iawnder, ac a ddywed wir yn ei galon," &c. Mae mynydd Seion yn y Salm hon yn cynnrychioü eglwys Dduw yn mhob oes o'r byd. Yr eglwys ydyw j mynydd lle y mae Duw yn cartrefu, a'r babell yn yr hon y llewyrcha ei ogoniant. A phan ystyriom hyn, mae yn weddus i ninnau ofyn gyda dwys- der, "Arglwydd, pwy a drig yn dy babellî"—pwy sydd yn deilwng i fod yn Bmaott», 1867. S *