Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD eri>A'K HWN Y MAE " T» ANNIBTNWE " WEDI EI UNO. AMSER Y DIWYGIAD. Ni bu yr un tymmor yn eiu hoes ag y gwelsom olwynion cerbyd diwygiad yn symud gyda'r fath gyflymder, »g y gwelsom ef yn ystod y deuddeg mis diweddaf. Gwelsom a chlywsom bethau anhygoeL Y mae Luciffer fel pe byddai wedi cwympo ar unwaith o binacl ei ogoniant i waelodion gwarth a dirmyg. Os dygir yn mlaen yn y misoedd dyfodol y fath chwyldroad mewn pethau gwladol a moesol ag a iu yn y tymmor diweddaf, byddwn ar drothwy y "milflwyddiant" yn fuan. Y mae fel creadigaeth newydd eiaoes yn ein gwlad. Y mae y cyfan yn ein calonogi i edrych yn mlaen gyda hyder at yr amser ag y bydd egwyddorion y deyrnas nad yw o'r byd hwn wedi cael eu ile dyladwy yn mysg pob dosbarth yn mhob man. Y mae hyn i'w ganfod yn eglur os ystyriwn sefyllfa ysgrif y DIWYGIAD SENEDDOL a basiwyd yn ddiweddar, trwy yr hon y mae yr hawl deilwng oedd gan fil- oedd yn ein gwlad o lais yn etholiad cynnrychiolydd i'r Senedd, ond heb ei mwynhau, o'r diwedd wedi ei chydnabod a'i chadarnhau ar dir teg. Y mae o bwys mawr bellach iddjrnt gael eu haddysgu yn briodol i'w defnyddio gyda chysondeb cydwybodol, fel ymddiried uchel, er daioni y cyhoedd a lles y wlad.. Os cedwir y cyffredin mewn caethiwed gwasaidd, dan ddylanwad cyfoeth neu awdurdod pendefigion, neu fygythion meistri tiroedd, troir y fendith yn felldith, mewn ymarferiad, drwy lawer cymydogaeth yn Nghymru. Ond hyderwn yr hyffordcür pob dyn am yr annibyniaeth anrhydeddus yn yr hwn y dylid arfer yr ymddiriedaeth bwysig. Ni cheir mo'r Tugel am beth amser etto, efallai, yr hyn a fuasai yn darian i'r gwan; o ganlyniad bydd raid sefyll yn gywir at egwyddor, gan nad beth a fyddo yr anhawsder a deimlir am dro. îîi a ganfyddwn hyn hefyd yn amlwg, os edrychwn ar derfyniad y dadleuon hirfaith yn nghylch T DBETH EGLWYS, o leiaf, cyn belled ag yr oedd yn orfodaeth ac yn drais cyfreithiol arsyniadau a llogellau dynion. Yr oedd arddodi baich ar ysgwyddau Ymneillduwyr i gyfranu tuag at gynnal trefniant o gi-efydd nad oeddynt yn ei hoffi, yn ormes anoddefol. Ar y mwyaf o haerllugrwydd oedd i'r eglwys gyfoethocaf yn y wlad fynu ei chynnaliaèth ar draul gorthrymu y rhai oedd wedi dangos y fath ffyddlondeb, ar yr egwyddor wirfoddol, i gynnal eu hachosion cartrefol eu hunain, yn gystal a'u cenadaethau tramor, sydd a'u galwadau am eu Gobpuena», 1868. t